Gwaith Ceiriog/Alun Mabon (20)

Alun Mabon (19) Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Alun Mabon (21)

XX

Fe ddaeth yr hogyn adref,
A rhoddodd sicrhad,
Fod Menna'n mynd i aros
Yn nhy ei mam a'i thad.
Os oeddem wedi priodi,
Yn bendant dwedai hi
Nad oedd dim modd cymodi
A dyn o'm tymer i.


Fod i'r holl fechgyn fyned
I'w magu ganddi hi:
Ac i'r genethod ddyfod
O dan fy ngofal i.
'R oedd hi yn ymwahanu,
Ac felly'n canu'n iach;
Ond hoffai roddi cusan
Ar wefus Enid fach.

A thrannoeth hi ddychwelodd
I ddwyn y rhwyg i ben:
Ond O! fe dorrodd dagrau
O eigion calon Men;
Cymerodd Arthur afael
Am wddf ei fam a fi,
Ac fel rhyw angel bychan,
Fe'n hailgymododd ni.