Gwaith Ceiriog/Alun Mabon (21)
← Alun Mabon (20) | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
Alun Mabon (22) → |
XXI
Wyddoch chwi beth, mae ffraeo
Yn ateb diben da;
Pe na bai oerni'r gauaf
Ni theimlem wrês yr ha;
Pe na bai ymrafaelio,
Ni byddai'r byd ddim nes,
Yn wir mae tipyn ffraeo
'N gwneyd llawer iawn o les.