Gwaith Ceiriog/Alun Mabon (22)
← Alun Mabon (21) | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
Alun Mabon (23) → |
XXII
Awel groes ar fy oes godai'n gryf wedyn,
Daeth i mi adwyth mawr, clefyd, a thwymyn:
Rhoddai mhlant ddwylaw'n mhleth, ogylch
fy ngwely,
Minnau'n fud welwn fyd arall yn nesu.
Is fy mhen, ias fy medd deimlais yn dyfod,
A daeth ofn, afon ddofn, ddu i'm cyfarfod;
Ond'roedd grudd ar fy ngrudd, ar yr awr ddua,
A rhoi gwin ar fy min ddarfu fy Menna.
O! os bu ias y bedd, allan o'r briddell,
Hi a fu ennyd fer yn fy hen babell;
Yn fy nhraed teimlais waed, dyn wedi huno,
Ond fe drodd angau draw wedi fy nharo.
Fel y graig safai'm gwraig anwyl yn ëon,
Ac i'r nef, gweddi gref yrrodd o'i chalon:
Rhoi ei grudd ar fy ngrudd, ar yr awr ddua,
A rhoi gwin ar fy min, ddarfu fy Menna.