Gwaith Ceiriog/Bugail yr Hafod

Gwaith Ceiriog/Mae John yn mynd i Loegr Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Ti wyddost beth ddywed fy nghalon

BUGAIL YR HAFOD

Alaw,—Hobed o Hilion

Pan oeddwn i'n fugail yn Hafod y Rhyd,
A'r defaid yn dyfod i'r gwair a'r iraidd ŷd;
Tan goeden gysgodol mor ddedwydd 'own i,
Yn cysgu, yn cysgu, yn ymyl trwyn fy nghi;
Gwelaf a welaf, af fan y fynnaf,
Yno mae fy nghalon, efo hen gyfoedion
Yn mwynhau y maesydd a'r dolydd ar hafddydd ar ei hyd.

Pan oeddwn i gartref, fy mhennaf fwynhad
Oedd naddu a naddu ar aelwyd glyd fy nhad;
Tra 'm chwaer efo 'i hosan a mam efo carth,
Yn nyddu, yn nyddu, ar garreg lân y barth,
Deued a ddeuo, anian dynn yno,
Hedaf yn fy afiaeth ar adenydd hiraeth
I'r hen dŷ, glangynnes, dirodres, adewais yn fy ngwlad.

Mae'r wennol yn crwydro o'i hannedd ddi-lyth,
Ond dychwel wna'r wennol yn ôl i'w hanwyl nyth;
A chrwydro wnawn ninnau ymhell ar ein hynt,
Gan gofio 'r hen gartref chwareuem ynddo gynt.
Pwyso mae adfyd, chwerwi mae bywyd,
Chwerwed ef a chwerwo, melus ydyw cofio
Annedd wen dan heulwen yr awen a wena arnom byth.