Gwaith Ceiriog/Codiad yr haul

Bardd yn ei Awen Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Llongau Madog

CODIAD YR HAUL

Mae yr alaw hon yn fwy addas feallai i'w chanu ar offeryn na chyda llais, oblegid ei bod mor gyflym, nes y mae synnwyr, barddoniaeth geiriau, ac odlau yn cael llithro trostynt o'r bron heb eu cyffwrdd. Yr oedd Handel yn gydnabyddus iawn gyda'r hen donau Cymreig, ac fe ddefnyddiodd hon yn ei Acis and Galatea. Yr oedd cyfaill o Sais un tro yn chware yr alaw o dan fy nghronglwyd, ac wedi myned unwaith neu ddwy tros y dôn, pan waeddodd allan tros ei ysgwydd, "Ai tôn Gymreig y galwch chwi hon? Tôn o waith Handel yn dôn Gymreig!" Yr oedd yn dda gennyf gael cyfleustra i esbonio iddo.

Alaw,—Codiad yr Haul

Gwel, gwêl! wyneb y wawr,
Gwenu mae y bore-gwyn mawr:
Ac wele'r Haul trwy gwmwl rhudd,
Yn hollti ei daith gan dywallt Dydd!
I'w ŵydd adar a ddônt,
Dreigiau 'r Nos o'i olwg a ffont.
Pwy ddwed hardded ei rudd,
Wyched yw gwynfreichiau Dydd!
Try y môr yn gochfor gwaed,
A'r ddaear dry o dan ei draed,
A'r ddaear dry o dan ei draed.

Haul, Haul! hyfryd yw Haul,
Gwyneb Hedd yw gwyneb yr Haul:
I fyrdd y dysg fawredded yw
Y gwynwedd dân gyneuodd Duw!
I'w daith' fyny y daw,
Llygaid dydd a'i gwelant ef draw;
Egyr pob blaguryn byw,
Ar ros a gwaun yn rhesi gwiw-
Gwel pob peth wyn haul y nen,
E' gŵyd y byd pan gŵyd ei ben,
E' gŵyd y byd pan gŵyd ei ben.