Gwaith Ceiriog/Llongau Madog

Codiad yr haul Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Serch Hudol

LLONGAU MADOG

Alaw,—Difyrrwch y Brenin

Wele'n cychwyn dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg;
Wele Madog ddewr ei fron,
Yn gapten ar y llynges hon.
Mynd y mae i roi ei droed,
Ar le na welodd dyn erioed:
Antur enbyd ydyw hon,
Ond Duw a'i dal o don i don.

Sêr y nos a haul y dydd,
O gwmpas oll yn gwmpawd sydd;
Codai corwynt yn y De,
A chodai 'r tonnau hyd y ne;
Aeth y llongau ar eu hynt,
I grwydro 'r môr ym mraich y gwynt;
Dodwyd hwy ar dramor draeth,
I fyw a bod er gwell er gwaeth.

Wele'n glanio dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg:
Llais y morwyr glywn yn glir,
'R ôl blwydd o daith yn bloeddio "Tir!"
Canent newydd gân ynghyd,
Ar newydd draeth y newydd fyd—
Wele heddwch i bob dyn,
A phawb yn frenin arno 'i hun.