Gwaith Ceiriog/Llances y Dyffryn
← Trot y Gaseg | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
Yn Ynys Môn Fe Safai Gŵr → |
LLANCES Y DYFFRYN
Alaw,—Llances y Dyffryn
Llances y Dyffryn wnaeth bopeth yn iawn,
Llanwodd lawenydd fy nghalon yn llawn;
Glanach yw'r defaid ar ochr y bryn,
Gwynnach yw'r alarch ar ddwfr y llyn:
Clysach yw'r blodau, a glasach yw'r coed;
Harddach, prydferthach y byd nag erioed.
Gwnaed fi yn ddedwydd foreuddydd a nawn,
Llances y Dyffryn wnaeth bopeth yn iawn.
Llances y Dyffryn oleuodd y fro,
Gloewach yw'r afon a glanach yw'r gro;
Purach fy meddwl a hoewach fy nhroed,
Hoenach yr awen na bu erioed.
Hoffach yw'r Dyffryn a llonnach pob lle,
Mwynach yw'r awel o'r dwyrain a'r dê;
Trom fu fy nghalon, ond'rwan distawn,
Llances y dyffryn wnaeth bopeth yn iawn.