Gwaith Ceiriog/Yn Ynys Môn Fe Safai Gŵr

Llances y Dyffryn Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Cadlef Morgannwg

YN YNYS MÔN FE SAFAI GŴR

Alaw—"Ymdaith y Mwnc"

Yn Ynys Môn fe safai gŵr
Ym min y nos ar fin y traeth;
Fe welai long draw ar y dŵr,
A'i hannerch ar yr eigion wnaeth:—
Dos a gwel fy machgen gwiw,
Dos a sibrwd yn ei glyw
Yn iaith ddinam
Ei anwyl fam,
A dywed fod ei dad yn fyw.
Ymwêl gyda 'm plentyn, a dwed fod ei dad,
Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli.
O! chwydder dy hwyliau gan chwaon o'th wlad,
A thyner bo'r awel lle bynnag'r ei di.
Dos tros y don,
Cei henffych well,
Dwed yno'n llon
Wrth fachgen sydd bell,
Fod Gwalia flodeuog yn moli'r un Duw,
Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw.

Fod ywen ddu yn hardd uwchben
Y garreg lâs lle cwsg ei fam,
Ac fod ei dad a'i farf yn wen,
Yn grwm ei war, a byr ei gam;
Fod y pistyll eto 'n gry,
Fod yr afon fel y bu,
Ar wely glân
O raian mân,
Yn sisial tôn wrth ddrws y tŷ.


Ymwêl gyda 'm plentyn, a dwed fod ei dad,
Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli.
O! chwydder dy hwyliau gan chwaon o'th wlad,
A thyner bo'r awel lle bynnag'r ei di.
Dos tros y don,
Cei henffych well,
Dwed yno 'n llon
Wrth fachgen sydd bell,
Fod Gwalia flodeuog yn moli'r un Duw,
Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw.

Fod ganddo chwaer ar ddelw 'i fam,
Sydd yn parhau i'w garu ef,
Sy 'n llawenhau wrth feddwl am
Gael eto gwrdd yn nef y nef.
Fod ei wlad heb weld ei hail
Am glysni teg a glesni dail;
A dal wrth ben
Ei Gymru wen
Mae awel nef a melyn haul.
Ymwêl gyda 'm plentyn, a dwed fod ei dad,
Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli.
O! chwydder dy hwyliau gan chwaon o'th wlad
A thyner bo'r awel lle bynnag'r ei di.
Dos tros y don,
Cei henffych well,
Dwed yno 'n llon
Wrth fachgen sydd bell,
Fod Gwalia flodeuog yn moli'r un Duw,
Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw.