Gwaith Ceiriog/Maes Crogen

Pa le mae'r hen Gymry Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Tros y Garreg

MAES CROGEN BORE TRANOETH

Ar y ffordd rhwng y Waun a Glynceiriog, y mae tŷ fferm mawr, o'r enw Crogen Iddon. Bu brwydr dost yn yr ardal hon yn 1164, rhwng y Cymry, tan arweiniad Owen Gwynedd, a Harri II. Y mae ôl ei wersyll mewn amryw fannau ar yr Orsedd Wen, Bwrdd y Brenin—ac ar ran o'r mynydd perthynol i'r amaethdy y'm ganwyd ac y'm magwyd i.

Alaw,—Y Fwyalchen

Y frwydr aeth trosodd o'r diwedd,
A baeddwyd y gelyn yn llwyr;
A'r sêr edrychasant ar Wynedd,
A'r bore ddilynodd yr hwyr.
'R oedd yno ieuenctid yn gorwedd,
Am sefyll tros Wynedd yn bur—
Yn fore daeth mamau a gwragedd,
I chwilio am feibion a gwŷr.

Fe ganai mwyalchen er hynny,
Mewn derwen ar lannerch y gad;
Tra 'r coedydd a'r gwrychoedd yn lledu,
Eu breichiau tros filwyr ein gwlad.
Gorweddai gŵr ieuanc yn welw,
Fe drengodd bachgennyn gerllaw;
Tra i dad wrth ei ochor yn farw,
A'i gleddyf yn fyw yn ei law.

Gan frodyr, chwiorydd, a mamau,
Fe gasglwyd y meirwon ynghyd;
Agorwyd y ffos ac fe 'i cauwyd,
Ond canai 'r Fwyalchen o hyd.
Bu brwydyr Maes Crogen yn chwerw,
Gwyn fyd yr aderyn nas gŵyr
Am alar y byw am y meirw,
Y bore ddilynodd yr hwyr.