Gwaith Ceiriog/Pa le mae'r hen Gymry
← Y Ferch o'r Scer | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
Maes Crogen → |
PA LE MAE' R HEN GYMRY?
Bernid unwaith, nid yn unig gan Gymru hygoel, ond gan yr holl deyrnas, fod llwyth o Indiaid Cymreig yn preswylio parth o'r America ar gyffiniau yr afon Missouri, ac mai y Padoucas neu y Mandanas oeddynt. Y mae yr hanes am John Evans o'r Waunfawr, yn Arfon, yn hynod effeithiol. Cenhadwr ieuanc, llawn o ysbryd gwladgarol ac o sêl grefyddol ydoedd ef. Ymgymerodd â'r gorchwyl mawr o fyned i eithafoedd America, i chwilio am ddisgynyddion Madog, ac i bregethu yr efengyl iddynt. Dilynodd John Evans yr afon Missouri am 1,600 o filldiroedd, ond tarawyd ef â'r dwymyn, a bu farw, ymhell o'i fro enedigol, ac mor bell ag erioed oddiwrth yr Indiaid Cymreig. Y mae pedwar ugain mlynedd er hynny, ac y mae ein barn, gan mwyaf, wedi cyfnewid o barth i fodolaeth bresennol disgynyddion Madog ap Owen Gwynedd. Gweler draethawd Thomas Stephens, Ysw., Merthyr Tydfil, ar y mater. Y mae amcan mawreddus, ynni anturiaethus, taith aflwyddiannus, a diwedd torcalonnus y Cymro ieuanc hwn yn hynod darawiadol.
Alaw,—Llwyn Onn
Mae 'r haul wedi machlud, a'r lleuad yn codi,
A bachgen o Gymru yn flin gan ei daith;
Yn crwydro mewn breuddwyd, ar lan y Missouri,
I chwilio am lwyth a lefarent ein hiaith.
Ymdrochai y sêr yn y tonnau tryloewon,
Ac yntau fel meudwy yn rhodio trwy i hun;
"Pa le mae fy mrodyr?" gofynnai i'r afon
"Pa le mae 'r hen Gymry, fy mhobol fy hun?"
Fe ruai bwystfilod, a'r nos wnâi dywyllu,
Tra 'r dwfr yn ei wyneb a'r coed yn ei gefn;
Yng nghaban y coediwr fe syrthiodd i gysgu,
Ac yno breuddwydiodd ei freuddwyd drachefn.
Fe welai Frythoniaid, Cymraeg wnaent lefaru,
Adroddent eu hanes, deallai bob un.
Deffrôdd yn y dwymyn, bu farw gan ofyn,
"Pa le mae 'r hen Gymry, fy mhobol fy hun?"