Gwaith Ceiriog/Mwyn yw myned tua Môn

Cadlef Morgannwg Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Hun Gwenllian

MWYN YW MYNED TUA MÔN

Alaw,—Hufen Melyn



A ddowch chwi' rwyfo ar yr afon,
A ddowch chwi' ganu yno'n gôr?
I weld hynawsed ydyw noson,
A mwyned murmur tonau'r môr?
A gawn ni fyned ar y Fenai heno,
I Ynys Môn a rhwyfwn gyda'r dôn:
O dowch i ganu, dowch i nofio,
Dowch i rwyfo gyda'r dôn:
Mae croeso an-wyl ini yno,
O mwyn yw myned tua Môn.


Mae 'r bad yn nofio ar yr afon,
A nos o fwyniant ydyw hon;
Mae 'r ser a'r lleuad yn dryloewon,
A'r côr yn canu ar y dôn.
Wel ar y Fenai, ar y Fenai heno,
Y llawen ganwn, rhwyfwn gyda 'r dôn,—
A dyma 'r canu, dyma 'r nofio,
Dyma 'r rhwyfo gyda 'r dôn;
Mae aelwyd lawen inni yno,
O mwyn yw myned tua Môn.