Gwaith Ceiriog/Hun Gwenllian

Mwyn yw myned tua Môn Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Ar ddôl pendefig

HUN GWENLLIAN.

Alaw,—Hun Gwenllian

Hun Gwenllian, ferch y brenin,
Gwyn dy fyd ti tan y gŵys;
Cwsg Wenllian, dyner blentyn,
Yn y ddaear ddistaw ddwys.
Cledd y Norman wnaeth gyflafan,
Nid oes gennyt fam yn awr;
Hun Gwenllian, hun Gwenllian,
Cwsg ymhell o'r cystudd mawr.

Hun Gwenllian, i'th fendithio
Duw'th gymerodd yn ei gôl;
Mae'th frawd hynaf wedi cwympo,
Ni ddaw'r iengaf byth yn ol.
Yn dy gartref trig y Norman,
Seren Cymru aeth i lawr;
Hun Gwenllian, hun Gwenllian,
Cwsg ymhell o'r cystudd mawr.