Gwaith Ceiriog/Ar ddôl pendefig
← Hun Gwenllian | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
A laeswn ni ddwylaw → |
AR DDOL PENDEFIG
Alaw,—Y Gwenith Gwyn
Ar ddol pendefig, heidden wen
Ymgrymai' phen yn hawddgar;
'R oedd cnwd o honynt ar y cae,
Fel tonnau hyd y ddaear;
A cher y fan, ar fin rhyw lyn,
'R oedd gwenith gwyn yn gwenu;
Un gwlith, un gwlaw, oedd ar y ddau,
Y cnydau prydferth hynny.
Fe roddodd Duw mewn gwlaw a gwlith,
Ei fendith ar y maesydd;
A dyn a godai gyda'r wawr
I dorri lawr y cynnydd.
Ond rhwng y ddeufaes trowynt ddaeth,
A rhuo wnaeth i'r nefoedd,—
"Fod un yn mynd er bendith dyn,
A'r llall i ddamnio miloedd."