Gwaith Ceiriog/A laeswn ni ddwylaw
← Ar ddôl pendefig | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
Llwybr y Pererin → |
A LAESWN NI DDWYLAW?
Alaw,—Llwyn Onn
A laeswn ni ddwylaw yng nganol y rhyfel,
Tra'r gelyn yn erlid, a fynnwn ni hedd?
Tra llidiart y fynwent a'i sgrech ar ei hechel
Wrth dderbyn y meddwon i stafell y bedd?
Mae'r blodau sy'n tyfu ar feddrod y meddwyn
Yn gollwng eu dagrau tan gysgod yr yw;
A'r gwynt wrth fynd heibio, fel taran; yn gofyn
"Pa un ai moesoldeb ai meddwdod gaiff fyw?"