Gwaith Ceiriog/Llwybr y Pererin
← A laeswn ni ddwylaw | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
Bedd Llywelyn → |
LLWYBR Y PERERIN
Mi dybiais fod ffordd y pererin i'r nef
Yn un lefn ac hardd-esmwyth trwy ddyffryn glâs gain;
Dangosaist Di'r ffordd—ac un gul dywell oedd,
Garegog a blin trwy fieri a drain.
Mae temlau a phlasau heb ofid na phoen,
Ond y maent tros gagendor o dir y rhai byw;
Mae afonydd o hedd, ond pa le maent i'w cael,—
Yn y nef yno maent, fry yn nefoedd fy Nuw.