Gwaith Ceiriog/Bedd Llywelyn

Llwybr y Pererin Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

A ddywedaist ti fod Cymru'n dlawd

BEDD LLYWELYN

Alaw,—Goslef Llywelyn

I feddrod Llywelyn mae'r tir wedi suddo,
Ac arno'r gwlawogydd arosant yn llyn;
Mae'r lloer wrth ymgodi, a'r haul wrth fachludo,
Yn edrych gan wrido ar ysgwydd y bryn.
Fy Nghymru, fy Ngwlad, a wyddost ti hyn!
Pa le mae Gwladgarwch yn dangos ei gwedd?
Mae dagrau y cwmwl yn gwybod am dano,
A deryn y mynydd yn nabod y bedd.

Ar ddamwain mae'r Cymro yn dyfod i weled,
Lle cwympodd yr olaf fu ddewr ar ei ran;
Yr awel a gwyna a'r ddaear a ddywed,
Fod calon hen Walia yn curo 'n lled wan;
Dieithriaid a ddônt i weled y fan
Y gorffwys Llywelyn wrth ochor ei gledd;
Wel diolch am ddeigryn o'r nefoedd i waered,
Ac am y glaswelltyn yn ymyl y bedd.