Gwaith Ceiriog/Peidiwch byth a dwedyd hynny

A ddywedaist ti fod Cymru'n dlawd? Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Dydd trwy 'r ffenestr

PEIDIWCH BYTH A DWEDYD HYNNY

(Ysgrifennwyd y geiriau i Miss Edith Wynne, yr hon a'u
canodd yn Eisteddfod Genhedlaethol Caernarfon, 1862.)

I


D'wedwch fod fy ffroen yn uchel,
Fod fy malchder yn drahaus,
Fod gwamalrwydd ar fy wyneb
A mursendod yn fy llais.
Ond mae terfyn i anwiredd,
I greulondeb a sarhad.
Peidiwch byth a dwedyd hynny,
Imi golli'm serch at Gymru,
Imi golli iaith fy ngwlad.

II


O mor barod ydyw dynion
I drywanu at y byw;
O mor gyndyn ydynt wedyn
I roi eli ar y briw.
Dodwch garreg ar fy meddrod,
Fel y mynnoch bo'r coffâd;
Dyna'r pryd i dd'wedyd hynny,
Imi golli'm serch at Gymru,
Imi golli iaith fy ngwlad.