Gwaith Ceiriog/Y fam ieuanc

Y baban diwrnod oed Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Ceisiais drysor

FAM IEUANC

Yr hon a fu farw ymhen ychydig wythnosau ar ôl
genedigaeth ei bachgen bychan cyntafanedig

"Cewch eto deimlo'r heulwen
Yn gynnes ar eich grudd;
Cewch eto deimlo'r awel
Am lawer hafaidd ddydd;
Peidiwch a son am farw,
Peidiwch a meddwl am
I'ch plentyn fyw heb glywed
Na' nabod llais ei fam.

"Peidiwch a son am farw,
Daw eto haul ar fryn;
Ac iechyd ddaw i'ch codi
O'r hen gystuddiau hyn.
Yn wan ei llais atebodd,
Peidiwch a son am fyw!
'Rwy'n rhoi fy machgen anwyl
I'ch gofal chwi a Duw."

Gadawyd yr ystafell
Am ddim ond ennyd fach,
A chlywid llais yn sibrwd,—
"Fy anwyl fachgen bach!
Fy machgen, O! fy machgen!
O na b'ai'th fam yn iach;
Fy nghyntaf, olaf blentyn,
Fy anwyl fachgen bach!


"Fy nghyfaill bychan newydd
'R wyf fi yn mynd i'r nef;
'R wy'n myned at yr Iesu,
Hen gyfaill ydyw Ef!"
Bu farw, ac hi wywodd
Fel blodyn ar y dail,
Gan ddyweyd,—"Fy machgen anwyl!"
Ac "Iesu!" bob yn ail.