Gwaith Dafydd ap Gwilym/Serchowgrwydd Morfudd
← Y Ceiliog Bronfraith | Gwaith Dafydd ap Gwilym gan Owen Morgan Edwards |
Darlun—Llus ac Eithyn → |
SERCHOWGRWYDD MORFUDD
CEFAIS fodd, cofus fydda,
Heddyw yn y glyn ddyn dda;
Dyn wyl, dda ei dynoliaeth
A'i modd, gwell na neb ei maeth
Am gusan, lliw'r wylan wych;
Chwaneg ni chawn er chwennych
Peth nid oeddwn gynefin,
Sypiau mel a sipio min.
Gwanfardd gweddeidd-dwf gwin-faeth
Oeddwn gynt iddi yn gaeth;
Rhyw gwlm serch, cyd rhy-gelwyf,
Rh'om oedd, gwn, rhwymedig wyf.
Manod-liw ddyn munud-loew,
Morfudd, huan ddeurudd hoew,
A'm daliawdd, be hawdd, bu hy'
Dal-dal yng nghongl y deildy;
Daliad cwlwm cariad coeth,
Dau arddwrn dyn diweir-ddoeth;
Da oedd yr haul uwch daear
Dal i'm cylch dwylaw a'm câr;
Am wddw bardd, bun hardd-lun,
Llai na baich oedd befr-fraich bun;
Lliw'r calch ar gaer fain falchwyn,
Llyna rodd da ar wddw dyn,
A roes bun, ac un a'i gŵyr,
Am fwnwgl bardd, em feinŵyr.
Diofn, dilwfr, eofn dal,
A du wyf, a diofal,
A deufraich fy myn difrad
I'm cylchwyn, ym medw-lwyn mad.