Gwaith Dafydd ap Gwilym/Y Ceiliog Bronfraith

Y Lleuad Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Serchowgrwydd Morfudd

Y CEILIOG BRONFRAITH.

Lle digrif y bum heddyw,
Dan fentyll y gwyrdd-gyll gwiw,
Yn gwrando, clau ddechrau dydd,
Y ceiliog bronfraith celfydd.
Pellenig heb pall ei ganwyd,
Pell siwrneiai'r llatai llwyd;
Yma y daeth o swydd gaeth Gaer,
Am ei erchi o'm eur-chwaer.
A'i wisg oedd, o'i wasg eiddil,
O flodau mân-gangau mil;
A'i gasul, debygesynt,
O esgyll gwyrdd fentyll gwynt;
Nid oedd yna—dyn mawr!
Ond aur oll yn do i'r allawr.

Morfudd a'i hanfonasai,
Mydr ganiadaeth mabmaeth Mai;
Mi a glown, mewn gloew-iaith,
Ddadganu nid methu maith,
Darllen i'r plwyf, nid rhwyf rhus
Efengyl yn ddifyngus;
Codi ar fryn in, yna,
Afrlladen o ddeilen dda,
Ac eos gain fain fangaw,
O gŵr y llwyn ger ei llaw
Cler-wraig nant, i gant a gân,
Cloch aberth clau y chwiban;
A dyrchafel yr aberth,
Hyd y nen, uwchben y berth ;
A chywydd i'n Dofydd Dad,
A charegl nwyf, a chariad,—
Bodlon wyf i'r ganiadaeth
Bedw-lwyn o'r coed mwyn a'i maeth.


Nodiadau

golygu