Gwaith Dafydd ap Gwilym/Y Daran
← Mis Mai | Gwaith Dafydd ap Gwilym gan Owen Morgan Edwards |
Y Niwl → |
- Y DARAN
DAN lwyn mewn dien lannerch,
A dail Mairhwng dwylaw merch,
Myn dyn, pan oeddym ein dau
Lawenaf, ddyn aelwinpau,
Taro a wnaeth, terwyn oedd,
Trwst taran tros y tiroedd.
A ffrydiaw croewlaw creulawn,
A phoeri mellt yn ffrom iawn;
Gwylltio'r forwyn, fwyn feinwen,
Gwasgaru ar ffo gwisg ei phen;
Tan y gwŷdd 'r oedd tân yn gwau,
Ffoes hon, a ffoais innau.
Duryn fflam fu'r daran fflwch,
Dug rwyfa ein digrifwch;
Trwch ydoedd, tristwch i'r trwyn,
Trwst mawr yn tristhau morwyn;
Twrf a glyw pob tyrfa glau,
Tarw crŷg yn torri creigiau;
Taran a ddug trinoedd in,
Trwst arfau wybr tros derfyn.
Twrf o awyr, ai tyrfellt,
Tompyr a fag tampran o fellt;
Tân aml a dwfr tew'n ymladd,
Tân o lid a dwfr tew'n ei ladd;
Clywais fry, ciliais o fraw,
Carlaidd udgorn y curlaw;
Mil fawr yn ymleferydd
O gertwynau sygnau sydd;
Braw a ddisgynnodd i'm bron,
Bwrw deri o'r wybr dirion;
Gwyllt yr awn, a'm gwallt ar wŷr,
Gan ruad gwnn yr awyr.
Gwiddon groch yn gwaeddi'n gre,
Gwrach hagr dan guro 'i chawgie;
Rheg yn germain rhyw gwyn gormes,
Rhugl groen yn rhyglaw gwres;
Torri cerwyni crinion
A barai Grist o'r wybr gron;
Canu trwmp o'r wybr gwmpas,
Curo gwlaw ar bob craig las;
Creglef yn dryllio creiglawr,
Crechwen yr wybr felen fawr;
Trwy ei hun y trawai hwrdd,
Tebyg i ganu tabwrdd.
Undyn nid oedd ond ni ein dau
Mewn man, 'y mun a minnau:
Fy nyn wen, ofni a wnai
Awyr arw ban weryrai;
Drwg fu'r daran i'm annos,
Dwyn dylif, ac ofni dyn dlos.
Arw fleiddiast, oerfel iddi,
Am ysgar mein war a mi.