Gwaith Dafydd ap Gwilym/Y Niwl

Y Daran Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Gwyneb Mynaches

Y NIWL[1]

OED a'm rhiain addfeindeg
A wnaethwn, yn dalgrwn deg,
I fyned, wedi ymgredu,
Ymaith ; ac oferdaith fu.

Mynd yn gynnar i'w haros,
Egino niwl cyn y nos.

Tywyllodd wybr fantellau
Y ffordd, fel petawn mewn ffau.

Cuddio golwybr yr wybren,
Codi niwl cau hyd y nen.

Cyn cerdded cam o'm tramwy,
Ni welid man o'r wlad mwy,
Na gorallt fedw, na goror,
Na bronnydd, meusydd, na môr.

Och it, niwlen felen fawr,
O throit ti, na tharrit awr.

Casul o'r awyr ddu-lwyd.
Carthen aniben iawn wyd;
Mwg ellylldan o Annwn,
Abid tew ar y byd hwn;
Mal tarth uffernbarth ffyrnbell,
Mŵg y byd yn magu o bell,
Uchel dop adar gopwe,
Fel gweilgi,'n llenwi pob lle;
Tew wyd, a glud, tad y gwlaw,
Tyddyn a mam wyd iddaw;
Gwrthban draw trymwlaw tromlyd,
Gwe ddu bell a gudd y byd;

Cnwd anhygar, diaraul,
Clwyd forlo rhyngo a'r haul;
Nos im fydd dydd difyr-glwyd,
Dydd yn nos, pand diddawn wyd.

Tew eira fry'r hyd tai'r fron,
Tad llwydrew, tidiau lladron;
Gwasarn yr eira llon Ionawr,
Goddaith o'r awyr faith fawr;
Ymlusgwr, bwriwr barrug
Ar hyd moelydd, ar grinwydd grug;
Hudol egwan yn hedeg,
Hir barthlwyth y Tylwyth Teg;
Gown i'r graig, gu awyr gron,
Cwmwl planedau ceimion;
Ager yn tynnu eigiawn,
Mor-wynt o Annwn mawr iawn;
O'm blaen ar riw hagr-liw hyll,
Obry yn dew wybren dywyll.

Fy nhroi i fan trwstanwaith
Fel uffern, i figin-wern faith,
Lle'r ydoedd yn mhob gobant
Ellyllon mingeimion gant,
Ni chawn, mewn gwern uffernol,
Dwll heb wrysg dywyll heb rol.

Ni wnaf oed, anhy ydwy,
Ar niwl maith, am anrhaith, mwy.


Nodiadau golygu

  1. Awduraeth DapG yn cael ei amau gw: Dafydd ap Gwilym net Cerddi'r Apocryffa Dafydd Johnston rhif A123