Gwaith Dafydd ap Gwilym/Yr Alarch

Y Fwyalchen Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Y Ceiliog Du

YR ALARCH[1]

YR alarch, ar ei wiw-lyn,
Abid galch, fel abad gwyn,
Llewych edn y lluwch ydwyd,
Lliw gŵr o nef llawgrwn wyd.
Dwys iawn yw dy wasanaeth,
Hyfryd yw dy febyd faeth.
Duw roes it yn yr oes hon
Feddiant ar Lyn Syfaddon;
Dau feddiant, rhag dy foddi,
Radau teg, a roed i ti,—
Cael bod yn ben pysgodwr,
Llyna ddawn, uwch llyn o ddwr,
A hedeg ymhell elli
Uwchlaw y fron uchel fry,
Ac edrych, edn gwyn gwych gwâr,
I ddeall clawr y ddaear,
A gwylio rhod a'r gwaelod,
A rhwyfo'r aig, rhif yr od.
Gwaith teg yw marchogaeth ton
I ragod pysg o'r eigion;
Dy enwair, wr di-anhardd,
Yn wir, yw'r mwnwgl hir hardd.

Ceidwad goruwch llygaid llyn,
Cyfliwiaidd cofl o ewyn,
Gorwyn wyd uwch geirw y nant,
Mewn crys o liw maen crisiant;
Dwbled fel mil o lili,
Wasgod teg, a wisgid ti ;
Sieced o ros gwyn it sydd,
A gŵn o flodau'r gwynwydd.

Nodiadau

golygu
  1. Amheuaeth mae nid gwaith DapG ydyw, gw: Dafydd ap Gwilym net Cerddi'r Apocryffa Rhif A194