Gwaith Dewi Wnion/Pabell Morris Bibbi
← Pennillion i Mr. William Rees | Gwaith Dewi Wnion gan Dewi Wnion |
Shonco Serfel → |
PABELL MORRIS BIBBI.
[Cyfansoddwyd y Pennillion canlynol ar orpheniad Palasdy Morris Bibby, Ysw., ger Llanfyllin, lle yr oedd y Bardd yn gweithio. Yr oedd y Tŷ wedi ei adeiladu â’i wyneb tua chodiad haul.]
Ae fur y tŷ, ar foreu teg,
Mae’r cudeg haul yn codi
Ar awel dydd, yn wawl o dân,
Hwn rydd ei lân oleuni,
Cyfrana wres o’i gynhes gell
Ar Babell Morris Bibbi.
Yn mh’le ceir byth gyfleusdra gwell
Nac sydd wrth Babell Bibbi,
I rodio’n mysg yr adar mân
Bydd allan gân o’r gelli,
Fe geir eu llais o gẁr y llwyn
Yn didlawd fwyn gydoli.
I’n dilyn fyth, â’i delyn fwyn,
O gŵr y llwyn i’n lloni,
Yn ei dŷ o flaen ei dân,
I ateb cân y rheini;
Nid all y Ne’ ddim bod yn mhell
O Babell Morris Bibbi!
Aed o’r fro sy am gario gwg,
A gwyneb drwg yn gwenu;
Y dynion glwth sy dan y glôb
Am gynnal pob drygioni;
Safed rhai’n i gyd ymhell
O Babell Morris Bibbi!}}