Gwaith Dewi Wnion/Shonco Serfel
← Pabell Morris Bibbi | Gwaith Dewi Wnion gan Dewi Wnion |
Rhybudd i Gigyddion → |
SHONCO SERFEL.
Yr oedd Dewi un tro wedi myned i Fowddwy i ymweled â rhai o’i berthynasau. Yr oedd ci bychan o’r enw uchod, oedd mewn ffafr fawr gan y teulu, wedi trengu, a chael ei gladdu y boreu hwnw; ac wrth weled y plant mewn galar mawr ar ei ol, canodd Dewi,—
Bu farw Shonco Serfel,
Ding dong bell, ding dong bell,
Fe’i rho’wd o yn y grafel,
Ding dong bell;
’ Ddaw Shonco byth ond hyny
I hela i Arran Fowddy
Mae Shonco wedi’i gladdu,
Ding dong bell, ding dong bell,
 Jack a Jini ’n nadu,
Ding dong bell.