Gwaith Dewi Wnion/Y Gwellaif
← Echryslonrwydd Dinas Ar Dan | Gwaith Dewi Wnion gan Dewi Wnion |
Englynion (2) → |
Y GWELLAIF.
Hyll edrych ar y lladrad—wna'r gwellaif
Wr gwallus, yn wastad ;
E fyn hwn, er ei fwynhad,
A'i ddeufin glog y ddafad.
Y Gwellaif a gnaif i ni gnu,—cawn hwn
Cyn hir i'n cynnesu;
Y gwyn wlan a'n llona'n llu,
Du a llwyd, i'n dilladu.
Er y Gwellaif a gnaif gnu—go wlanog,
Ein gliniau sy'n rhynu
Nes cael siswrn, a dwrn du,
Deio Llwyd i'n dilladu.
Dolen o ddur deil yn dda,—y ddan lafn
Yn ddi lwfr a gneifia;
Llafnau dur yn llyfn dora,
A gnaif âg ef cnu fe ga.
Er chwiliwr glew a'r chwalwr gwlan—dewr allu,
Holl droellau Dolobran,
Y Gwellaif hoyw, gloyw, glân,
Cofiwch raid borthi 'r cyfan.
Heb y Gwellaif saif mewn sen,—am ennyd,
Lawer meinir geinwen,
Gan dd'wedyd, - Mae'r byd ar ben
Eleni am bais wlanen!