Gwaith Dewi Wyn/Beirdd Cymru
← Gwaith Dewi Wyn/Awdl Cyfarch y Gweithwyr | Gwaith Dewi Wyn gan Dafydd Owen (Dewi Wyn) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Englynion Pont Menai → |
BEIRDD CYMRU.
I. COF GORONWY OWEN.
CANAI awdlau cenedloedd,— ac iddo
Rhoed cywyddau'r nefoedd;
Angel i wneyd englyn oedd,
Mawr awdwr Cymru ydoedd.
II. BEDDARGRAFF DAFYDD DDU ERYRI.
(Bu farw Mawrth 30th, 1822).
O fedd oer ein Dafydd Ddu—henadur
A hynododd Gymru;
Ewythr i feirdd, athro fu,
Cefn wrthynt i'w cyfnerthu.
III. CYFARCH EBEN FARDD.
Pan enillodd "Dinistr Jerusalem" gader Powys, 1824.
Ebenezer, o bu'n isel,—a godwyd
I gader oruchel;
Uwch uwch ei rwysg, uchach yr êl,
Dringed i gadair angel.
IV. WRTH DDARLLEN SALMAU NICANDER.
Morus Wiliam yw'r Selef,—yr Heman,
A'r Homer digyfref;
Di feth un, dau o'i fath ef
A wnai Wynedd yn wiwnef.
Morus sy'n Forus anfarwol,—Morus,
Sy'n un mawr ryfeddol;
Ni fydd ei enw ef yn ol,
Ond Morus anghydmarol.