Gwaith Dewi Wyn/Englynion Pont Menai
← Beirdd Cymru | Gwaith Dewi Wyn gan Dafydd Owen (Dewi Wyn) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Torri Sylfaen Morglawdd Madog → |
ENGLYNION PONT MENAI.
FAM Gymru bu o'r bôn—hen fythol
Hynafiaethau mawrion;
Pont Aethwy, y pwynt weithion,
Myrdd mwy na mawreddau Môn.
Uchelgaer uwch y weilgi,—gyrr y byd
Ei gerbydau drosti;
Chwithau holl longau y lli,
Ewch o dan ei chadwyni.
Gwel foddi'r saith Gelfyddyd—uthr foddi'r
Saith Ryfeddod hefyd:
Ac o'r iawn-falch gywreinfyd,
Pen y gamp yw hon i gyd.
Troi i'm myfyr, tramwyfa—o gwmpas
Hen gampwaith Pont Cina;
Cwympai'n ddim, camp hon oedd dda,
Pan welwyd camp hen Walia.
Pontydd byd, pwyntiodd eu bai,—nid ydynt,
(Nodedig Bont Catai,
Ryw hesgach llwyd, wrysg a chlai,)
Ond pwynt main at Bont Menai.
Cloddiwyd, gosodwyd ei sail—yn y dwfn,
Nad ofnir ei hadfail;
Crogedig gaerog adail,
Na roes yr Aifft engraifft ail.
Llaw Morddal, Tubal tybir—yn unaw
Ynys a Chyfandir;
Uno, dyasio dwy-sir,
Lle asient ein llesiant hir.
Nid gyrdd myrdd, nid gordd Morddal,—wnaent Ewrob,
Neu'n tyrau'n gyhafal;
Ni saif chwaith, uwch waith na gwal,
Gorff tebyg o grefft Tubal.
Ar lawr, rhowch yn awr Arch No,—uthr i bawb.
A Thŵr Babel wrtho;
Pump o faint un Pompey fo,
Chwe hynotach hon eto.
Bathwch yn un holl bethau—bynodion.
Hen awdwyr yr oesau;
Hynotach, ddirach o'r ddau,
Yw'r Bont hon ar bentanau.
Ban o agwedd benigamp—ucheled
Ei cholofn gadarn-gamp;
Dros forgainc, drws o fawrgamp,
Deuddwbl ydyw 'n gwbl dan gamp.
Amryw ganllath uwch y mô-—genlli,—ei hyd drudfawr;
Tair rhodfa sydd arni;
Tri deg llath, tra digio lli,
Yw 'r heolydd o'r heli.
Rhoir i wyr yr Awyren,—gynt rhedfal
Gan troedfedd yn wybren;
A'u rhawd yn uwch na rhod nen
Caerdroiau, lle crwydr Awen.
Daw agerddlong hyd y gwyrddli—môrfeirch.
Yn ymarfer dani,
Chwe phaun hardd uwch ei phen hi,
A'n mwyn deyrn yn mynd arni.
O daw i fwrw diferion,—dwy enfys
O dywynfa 'r hinon,
Paladr haul uwch pelydr hon,
A oreura yr awrhon.
PONT MENAI.
Am byst hon mae bost o hyd,—bost Ewrob
Ystyrrir hi hefyd;
Yn ben ar ben bannau 'r byd,
Maen clo fydd mewn celfyddyd.
Drych byd o Archwybodaeth,—anturnwyd
Ein teyrn a'n hunbennaeth;
A chofion o'u huwchafiaeth,
A dawn gwneyd y dyn a'i gwnaeth.
Oruwch cyrraedd rhawch cerhynt,—a chryfach
Na chrafanc y corwynt;
Ei thidau, mawrnerth ydynt,
Uwch nerth mawr gerth môr a gwynt.
Tra chynnwrf môr yn trochioni,—tra thonn
Trwy wythenau 'r weilgi,
Ni thyrr hwn ei thyrau hi
Tra 'r erys Tŵr Eryri."
Esgarir yn ysgyrion—cant Ewrob,
Cyn torro 'i gafaelion;
Yr ogof fawr ynghraig Fôn,
Gyferfydd ogof Arfon.
Awr o Fawrth, oer ryferthwy,—caf fynd o'n
Cyfandir i dramwy;
A theithiaf uwch Porthaethwy.
Safnau 'r môr nis ofnir mwy.
Ia yr awyr a'i rewiant—a chenllysg,
Ei chanllaw ni waethant;
Fflamfellt yn ei dellt nid ânt,
Dur ei thidau wrthodant.
Hanner y nos dos i daith,—mwyn yri,
Mewn awyren-fachdaith:
Nid cerhynt, na chorwynt chwaith,
O'th dramwy a'th dyrr ymaith.
Nid cwrwgl a nadai cerhynt,—ysgraff
A esgryn y corwynt;
Ei thidau nid carth ydynt,
Neu sofl a gwawn a syfl gwynt.
Dwy heol ydyw o haearn,—praffwaith,
Prif—ffordd hardd a chadarn;
Gwiw orsedd, ac awyr—sarn,
Safed fyth,—sef hyd y Farn.