Gwaith Dewi Wyn/Gruffydd Dafydd o Frynengan
← Arwyrain Amaethyddiaeth | Gwaith Dewi Wyn gan Dafydd Owen (Dewi Wyn) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Awdl Cyfarch y Gweithwyr → |
GRUFFYDD DAFYDD O FRYN ENGAN.
NODEDIG o ddawn nid ydoedd,—er hyn
Rhannai fara'r nefoedd,
O'i law aur i laweroedd, —
Offeryn Duw, a'i ffrynd, oedd.