Gwaith Goronwy Owen Cyf I/Meddwl am Argraffu
← Psalm cvii. | Gwaith Goronwy Owen Cyf I gan Goronwy Owen golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Cywydd y Cynghorfynt → |
Yn Walton.
MEDDWL AM ARGRAFFU.
At William Morris, Ion. 15, 1753.
IE drud gethin yw argraffu cywyddau yn y Mwythig, yn enwedig os mynnir papur da. Ni chlywais oddi wrth y Person Williams er ys talm mawr o amser. Nid gwiw gennyf ymhel ag ysgrifennu nodau ac esponiadau hyd onis gwypwyf yn sicr pa 'r un a wneir, ai eu hargraffu. ai peidio; ond nid ydyw hynny, deued a ddel, oddi ar waith dwy awr neu dair o amser. Gweled yr wyf nad yw ond gwaith gwellt imi roi fy ewyllyswyr da i'r gost o argraffu peth er fy mwyn i, na wna ffyrlingwerth o les i mi na hwythau, ond rhoi gwaith i ambell gecryn i 'spio gwallau ac i'm coegi a'm cablu am fy ngwaith. Llyna arfer rhan fawr o bobl Fon, ie a phob gwlad arall, gynt; ac odid eu bod eto nemawr gwell eu moesau. Am hynny synhwyrolaf y tybiwn adael iddynt ganu dyriau Elisa Gowper o Lanrwst, yr hyn fo hoffaf ganddynt. Eto gwnewch chwi a fynnoch. Os eu hargraffu a welwch yn orau, ni phrisiaf i ddraen am y cabl a'r gogan a gaffwyf gan bennaubyliaid. Prin iawn yw yr arian gyda mi,—prinnach o lawer na 'r cywyddau,—ac onide ni fyddwn 'chwaith hir yn ymarofyn pa un a wnaid eu hargraffu ai peidiaw.
Ydwyf eich gwasanaethwr.
GORONWY DDU.