Gwaith Goronwy Owen Cyf I/Psalm cvii.
← Cywydd i'r Calan, 1753 | Gwaith Goronwy Owen Cyf I gan Goronwy Owen golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Meddwl am Argraffu → |
PSALM CVII.
DYLEDSWYDD A DOETHINEB DYN YW YMFODDLONI I
EWYLLYS EI GREAWDR.
(O Saesneg y Dr. Samuel Collett.)
RWY droiau'r byd, ei wên a'i wg,
Bid da, bid drwg, y tybier,
Llaw Duw sy'n troi'r cwmpasgylch glân
Yn wiwlan, er na weler.
O'i dadawl ofal Ef a rydd
Yr hyn y sydd gymhedrol,
O hawddfyd, adfyd, iechyd, cur;
On'd da'i gymhesur fantol?
Pe rhoem ar geraint, oed, neu nerth,
Neu gyfoeth prydferth, oglud,
Os Duw a'i myn, fe'n teifl i lawr,
A'n rhodres mawr, mewn munud.
Os yfaist gwpan lawn o i lid,
A'th doi à gwrid a gwradwydd,
Od wyt gyff cler a bustl i'r byd,
Fe 'th gyfyd i foddlonrwydd.
Fe weryd wirion yn y frawd
Rhag ynllib tafawd atcas,
Fe rydd orffwysfa i alltud blin
Mewn anghynefin ddinas.
Ei gysur Ef sydd yn bywhau
Y pennau gogwyddedig,
Fe sych â'i law y llif sy'n gwau
Hyd ruddiau'r weddw unig.
Oes dim, nac yn na than, y nef
Nad Ef sydd yn ei beri;
Ac Ef a rydd-gwnaed dyn ei ran—
Y cyfan er daioni.
Pa raid ychwaneg? Gwnelwyf hyn,
Gosteged gwŷn a balchder;
Arnat Ti, Dduw, fy Ngheidwad glwys
Bid fy holl bwys a'm hyder.