Gwaith Goronwy Owen Cyf II/Bywyd yn Northolt

Arwyrain y Nennawr Gwaith Goronwy Owen Cyf II

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cywydd y Gwahawdd

V. YN NORTHOLT.

BYWYD YN NORTHOLT.

At Richard Morris, Hyd. 7. 1755.

EIN tad yr hwn wyt yn y Nafi,—Arhowch beth! nid oeddwn i'n meddwl am na phader na chredo, ond meddwl yr oeddwn eich clywed yn son y byddai dda gennych gael effrwm o gywion colomenod: a chan na feddwn nag oen na myn gafr, mi a'u gyrrais ichwi 'n anrheg, o'r gorau oedd ar fy llaw, a phoed teilwng gennych eu derbyn. Eu nifer yw chwech; ac yr wyf yn lled ofni y cyst ichwi dalu i borter am eu cludo ar ei ysbawd o Holborn hyd atoch: ond am y cerbydwr, mi dalaf i iddo. Os digwydd ichwi weled y Llew, chwi ellwch ddywedyd wrtho yn hydr ddigon, nad à na phregeth na phregowthen yn mlaen yma nes darfod Cywydd Llwydlo; fod y Lladin agos yn barod ar y mesur a elwir y Sapphic; a'm bod yn dra anewyllysgar i'r Gymraeg fod yn Gywydd Deuair Hirion, canys mai hwnnw yw 'r mesur atgasaf oll, a rhigwm diflas ydyw, fal y gwyddoch chwi a phawb agos. Beth meddech am Gywydd Llosgwrn, yr hwn sydd yn union yr un ddull a Sapphic? Eto bid ewyllys. y Llew ar y ddaear, megis y mae (weithiau) o dan y ddaear. Ond chwedl yn eich clust. Dyma guro wrth fy nrws i am hanner blwyddyn o dreth y goleuad, a chwarter o poor's a church rate. Rwy'n dyall rhaid talu neu wrido tua Dywllun nesaf; pa beth a wneir? Ni ddaeth mo'r dydd tâl eto hyd yma. A allech estyn of ugain swllt i ddeg ar hugain, mewn tipyn o barsel hyd yn Southall? ac onide, Duw a ŵyr, rhaid gofyn ced gan ddyeithriaid. Mae gennyf ychydig tan yr ewin, gwir yw; ond pa fodd y prynir pytatws heb ddimeiau? Pan ddelo Mr. Tai yma, mi a'i hebryngaf hyd atoch gydag anerch. Gofynwch i Sión Owen pa bryd y daw i'm hymweled? Mi gefais hanes y llyfrau a gobeithio eu bod bellach hanner y ffordd i Lundain. Fy ngwasanaeth at bawb a'm carant, a chwi yn y blaenaf.

Oddi wrth eich bachgen a'ch bardd,

GORONWY DDU.

Ond gwrandewch eto. Mae'r delyn o Bentre Eirianell? Dyma Robert, er pan glybu son am dani, wedi troi'r llall heibio; ac yn dywedyd fod yn o fustlaidd ganddo ganu telyn bapur. Yr oedd yn dra hoff ganddo o'r blaen; ond weithion mae 'n how ganddo 'i gweled, ac ni chair mono ati o hyd pigfforch a rhaff rawn, mwy na Dafydd ap Gwilym gynt ar y delyn ledr. Da iawn gan y llanc delyn, ond nid telyn bapur. Telyn like that he saw in Wales (i.e. at Pentre Eirianell) a fyn y dyn. Ac os fi fydd byw fe gaiff ddysgu ei chanu hefyd; oblegid—

Telyn i bob dyn doniawl.—difaswedd
Ydoedd fiwsig nefawl."

"Wele hai!" meddwch, "ai o'r hwyl yr aeth. y dyn? I ba beth y mae yn rhoi negeseuon arnaf?" Byddwch amyneddgar, da chwi. Ni chlywsoch hanner y negeseuon eto. Os chwi fyth ystig, ni bydd arnoch byth brinder swyddau tra bwyfio fewn byd pigfforch atoch.

(At William Morris, Rhag. 29, 1755.)

YR wyf yn byw mewn lle, fal y gwelsoch, a elwir Northolt, yn offeiriad o dan y Dr. Nicolls, Meistr y Deml (Master of the Temple), yn Llundain. Mae yn rhoi i mi ddeg punt a deugain yn y flwyddyn. Lle digon esmwyth ydyw'r lle, am nad oes gennyf ond un bregeth bob Sul, na dim ond wyth neu naw o ddyddiau gwylion i'w cadw trwy'r flwyddyn. A chan nad yw'r plwyf onid bychan, nid yw pob ran o'i ddyledswydd ond bychan bach. Am hynny mwyaf fyth a gaf of amser i ysgrifenu i'm Cymdeithas a phrydyddu, &c., yr hyn hefyd a ddechreuais er ys ennyd, er na chânt hwy weled dim nes ei berffeithio. Yr wyf yn awr yn prysur astudio Gwyddeleg ac yn ei chymharu â'r Gymraeg, ei mam; ac, yn mhell y bwyf, ond yw agos yn rhyfedd gennyf na ddeallem ni bob Gwyddel a ddoe o'r Iwerddon; ond gormod o dro sydd yn eu tafodau hwy wrth arfer ag iaith yr Ellmyn gynt; nid Saesneg ond High German; canys dywedent hwy a fynnont yn nghylch eu gwreiddyn, a dygont eu tadau of Yspaen, Milesia, Gwlad Roeg, neu 'r Aipht, neu 'r man y mynnont, nid ynt ond cymysg o Ellmyn a Brython-yn eu hiaith o'r lleiaf. Mi dybiais. gan waith gynt fod yr Wyddelig yn famiaith, ond camgymeriad oedd hyny, fel y dangosaf, os byddaf byw.

Mae yma yn fy nghymydogaeth ddyn penigamp o arddwr o'n gwlad, un a adwaenech yn dda gynt, a'i enw Owen Williams; ond "Adda" yr ydwyf fi ambell dro yn ei alw. Mi a'i gwelais ddoe, ac yr oedd yn dymuno ei wasanaeth atoch. Gan fod gennyf ardd, o'r oreu o ran tir, mi fum yn cethru arno yn dost am ychydig hadau a gwreiddiach i'w haddurno: ond nis medrodd gael imi yleni oddi ar ddyrnaid o snow—drops a chrocus, oblegid y mae'n achwyn yn dost nad ces na had na gwraidd i'w cael trwy deg na hagr gan waethed a fu'r hin i'w cynhafu. Ni wn i beth a geir y flwyddyn nesaf. Lle iachus digon yw'r lle hwn, ac yn dygymod yn burion â mi ac â'm holl deulu. Os byddwch faddeugar am a aeth heibio, ac mor fwyn a gyrru hyd bys o lythyr, llwybreiddiwch ef fel hyn:—"To me, at Northolt, near Southall, Middlesex, ner London."

Nodiadau

golygu