Gwaith Goronwy Owen Cyf II/Cywydd y Gwahawdd
← Bywyd yn Northolt | Gwaith Goronwy Owen Cyf II gan Goronwy Owen golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Dig Lewis Morris → |
CYWYDD Y GWAHAWDD.
ADDRESSED TO MR. WILLIAM PARRY, DEPUTY—
COMPTROLLER OF THE ROYAL MINT.
PARRI, fy nghyfaill puraf,
Dyn wyt a garodd Duw Naf;
A gŵr wyt, y mwynwr mau,
Gwir fwyn a garaf innau.
A thi 'n Llundain, wr cain cu,
Ond gwirion iawn dy garu?
Ond tost y didoliad hwn?
Gorau fai pe na'th garwn.
Dithau ni fynni deithiaw
O dref hyd yn Northol draw,
I gael cân—beth diddanach?
A rhodio gardd y bardd bach;
Ond dy swydd hyd y flwyddyn
Yw troi o gylch y Twr Gwyn,
A thorri, bathu arian,
Sylltau a dimeiau mân.
Dod i'th Fint, na fydd grintach,
Wyliau am fis, Wilym fach;
Dyfydd o fangre 'r dufwg;
Gad, er nef, y dref a'i drwg.
Dyred, er daed arian,
Ac, os gwnai, ti a gai gân;
Diod o ddwr, doed a ddel;
A chywydd; ac iach awel;
A chroeso calon onest,
Ddiddichell;—pa raid gwell gwest?
Addawaf—pam na ddeui?—
Ychwaneg, ddyn teg, i ti:
Ceir profi cwrw prifardd,
A 'mgomio wrth rodio'r ardd;
Cawn nodi, o'n cain adail,
Gwyrth Duw mewn rhagorwaith dail;
A diau pob blodeuyn
A yspys ddengys i ddyn
Ddirfawr ddyfnderoedd arfaeth
Diegwan lor, Duw a'i gwnaeth.
Blodau 'n aurdeganau gant,
Rhai gwynion mawr ogoniant.
Hardded wyt ti, 'r lili lân,
Lliw 'r eira, uwch llaw 'r arian!
Cofier it guro cyfoeth
Selyf, y sidanbryf doeth.
Llyna, fy nghyfaill anwyl,
Ddifai gwers i ddof a gwyl.
Diffrwyth fan flodau'r dyffryn
A dawl wag orfoledd dyn.
Hafal blodeuyn hefyd
I'n hoen fer yn hyn o fyd.
Hyddestl blodeuyn heddyw,
Y foru oll yn farw wyw.
Diwedd sydd i flodeuyn,
Ac unwedd fydd diwedd dyn.
Gnawd i ardd, ped fai 'r harddaf,
Edwi 'n ol dihoeni haf.
Tyred rhag troad y rhod;
Henu mae'r blodau hynod.
Er passio'r ddau gynhauaf,
Mae 'r hin fal ardymyr haf!
A'r ardd yn o hardd ddi haint,
A'r hin yn trechu'r henaint,
A'i gwyrddail yn deg irdda
Eto; ond heneiddio wna.
Mae'n gwywo, 'min y gauaf,
Y rhos a holl falchder haf.
Y rhos, heneiddiodd y rhain,
A henu wnawn ni 'n hunain.
Ond cyn bedd dyma 'ngweddi,
"Amen," dywed gyda mi,
Dybid in' ddyddiau diboen
A dihaint henaint o hoen;
Mynd yn ol, cyn marwolaeth,
I Fon, ein cysefin faeth.
Diddan a fyddo'n dyddiau
Yn unol, ddiddidol ddau;
A'r dydd, Duw ro amser da,
Y derfydd ein cyd yrfa,
CRIST yn nef a'n cartrefo,
Wyn fyd a phoed hynny fo.