Gwaith Goronwy Owen Cyf II/Dig Lewis Morris
← Cywydd y Gwahawdd | Gwaith Goronwy Owen Cyf II gan Goronwy Owen golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Cywydd i Ddiafol → |
CYWYDD I DDIAFOL.
At Richard Morris, Mai 20, 1756.
UN peth, os rhaid cyfaddef, sydd i'm digaloni yn gethin, sef, na chlywais o Allt Fadawg oddi wrth Y Llew na'i nai. Rhyfedd na chlywid oddi wrth Ieuan Owain, Fwynwr, os yw 'n fyw. Am y Llew, yr wyf agos a chanu'n iach iddo; oblegyd fod lle i ofni ei fod wedi digio tros byth bythoedd, o ran na chefais gantho ond sen y llythyr diweddaf byth a welais oddi wrtho. Y mater sydd fal hyn, a mater garw yw hefyd. Digwydd a wnaeth i'r Llew ddal sylw arnaf yn ysmocio fy nghetyn yn nghyfarfod y Cymmrodorion, ac uthr oedd gantho weled y Bardd faliar mewn mwg, a'r niwl gwyn yn droellau o amgylch ei ben, "like a glory in a picture"—dyna 'i air; "ond am Ffoulks, &c., nid oedd ryfedd gantho." Yr oedd yn taeru yr un amser fy mod wedi hanner grapio; ac yn wir mae'n atgof gennyf yfed o honof ran o phialaid o bwins yn nhy y car H. Prys cyn dyfod yno. Ond gadewch i hynny fod, nid aml y bydd y gwendid hwnnw arnaf (goreu fyth po'r anamlaf), a diau yw, fod maddeuant i fwy troseddau na hynny, er ei gymmaint. Sen iachus er fy lles i oedd y sen; a diolchgar ydwyf am dani. Ond eto nid arwydd da ar neb fod yn anfaddeugar. Nis gwn i achos arall yn y byd iddo ddigio a bod mor dyn. Mae gennyf yma yn fy ymyl brophwydoliaeth a "sgrifenwyd cyn gweled o honof Lundain erioed, sy 'n dywedyd, "Mai os fi, pan ddeuwn. yna, a fethwn yn yr hyn lleiaf ddal y ddysgl yn wastad i'r Llew, na wnai ond fy nirmygu a'm cablu a'm coegi, ar air a gweithred byth, heb obaith na chymod, na hawddgarwch, na mwynder, yn oes oesoedd, Amen."
Am gân Arwyrain y Cyw Arglwydd, ni thybiais fod neb yn absen y Llew a'i cyflwynai i wneuthur dim lles â hi, oblegid fod y Llew wedi bod o'r blaen yn son am danaf wrth yr Iarll, yr hyn na bu neb arall ar a wyddwn i; ac odid y cofiai yr Iarll mai fi y crybwyllasai 'r Llew wrtho, oni bai iddo fo ei hun ei chyflwyno a dwyn ar gof i yr Iarll yr ymgom a fuasai yn fy nghylch. Mae hi eto heb ei llawn orffen yn Gymraeg; ond bellach ati hi yn nerth braich ac ysgwydd. Ond yn y cyfamser dyma ichwi ryw erthyl o Gywydd tra bo 'ch yn aros am dani hi:—