Gwaith Goronwy Owen Cyf II/Colli Tymer

Cywydd Ateb Huw ap Huw Gwaith Goronwy Owen Cyf II

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Penderfynu Ymadael

COLLI TYMER.

At Richard Morris, Medi 27, 1756.

AM eich llyfrau chwi a fenthycais chwi a'u cewch pan fynnoch. Ni bum erioed ar gyngyd na'u bwyta na'u hyfed, na'u gwerthu, na gwneuthur ffagl o honynt. Ac am y Dafis yna, mae iddo groeso i'r dodrefn sydd heb dalu am danynt pan fynno; nid oes arnynt nemor of geiniogwerth. A phan ddelo amser cyfaddas, mi ddiolchaf i'r wyneb lleuen gadach am ei gastiau llechwraidd. Yr oedd y llechgi brwnt yn ddiswydd ddigon ddyfod yma gyda'r cynrhonyn coesgam hwnnw o fachgen i hel chwedlau; ac yn cydgoethi a chablu arnaf gyda'r dafarnwraig biglas yma, fal y mae hi ei hun yn addef yn awr wedi cymodi o honom.Y BARDD GWYLLT.

Nodiadau

golygu