Gwaith Goronwy Owen Cyf II/Penderfynu Ymadael
← Colli Tymer | Gwaith Goronwy Owen Cyf II gan Goronwy Owen golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Cychwyn → |
PENDERFYNU YMADAEL.
[At yr Anrhydeddus a'r hybarch Gymdeithas o Gymrodorion, Goronwy Ddu, eu Cyfaill a'u Bardd gynt, a'u Gwasanaether a'u Car hyd angau, yn anfon annerch.]
Y PENDEFIGION URDDASOL,—Yn gymaint a'm bod eisus yn dra rhwymedig i'ch hybarch Gymdeithas, a'm bod yn myned yn ddiatreg (Duw ro fordwy dda), yn rhybell i ddysgwyl byth ond hynny weled un wyneb dyn o honoch, mi dybiais nad anghymwys imi, neu yn hytrach fod yn ddyledus arnaf, gymeryd cennad teg gennych oll cyn fy nghychwyn. Ac, fal y mynnai Dduw, dyma 'r adeg orau oll o'm blaen, sef, ar noswaith eich cyfarfod; pryd y mae rhan fawr o honoch wedi ymgynnull trwy undeb a brawdgarwch, yn ol eich Arfsgrif, i gydsynio ar wir les eich gwlad, ac i hwylio yn mlaen amryw eraill o ddibenion canmoladwy eich Cymdeithas. Gweddus a Christionogawl iawn eich gwaith; boddlawn gan Dduw a chysurus i amryw o'i haelodau anghenawg, a chlod fawr yng ngolwg holl ddynolryw; a sicr a fydd eich gwobrwy ddydd a ddaw, gan yr hwn a ddywed, "Gwyn ei fyd a dosturio wrth y tlawd a'r anghenus." Am danaf fy hun, nid allaf ymhonni o ddim rhan o'r fendith yma, er bod yn aelod o'ch urddasol Gymdeithas, gan na roes y Goruchaf im' mo 'r gallu; er y gallaf yn hyderus ddywedyd na bu arnaf erioed ddiffyg ewyllys; ac os Duw a'm llwydda, na bydd byth. Dyn wyf fi, fal y gwyr amryw o honoch, a welodd lawer tro ar fyd, er na welais nemor o dro da; ac mi allaf ddywedyd wrthych, fal y Padriarch Jacob wrth Pharoah gynt, Ychydig a blin fu dyddiau 'ch gwas hyd yn hyn"; ond yn awr yr wyf yn gobeithio fod nef yn dechreu gwenu arnaf; ac y bydd wiw gan yr Hollalluog, sy 'n porthi cywion y gigfran pan lefont arno, roi i minnau fodd i fagu fy mhlant yn ddiwall ddiangen. Er eu mwyn hwy yn unig y cymerais mewn llaw y fordaith hirfaith hon, heb ameu gennyf nad galwad rhagluniaeth ydyw. Hir a maith yn ddiau yw'r daith i Virginia; ond eto mae 'n gysur, pan elir yno, gael dau gant punt yn y flwyddyn at fagu'r plant. Mae hyn yn fwy nag a ddysgwyliais erioed yn Mhrydain na'r Iwerddon; a pha fodd yr atebwn i'm teulu pe gwrthodwn y fath gynnyg drwy lwfrdra a difräwch? Er eu mwyn hwy ynteu mi deflais y dis, gan roi fy einioes yn fy llaw a diystyrru pob perygl a allai ein goddiwes; a hynny, nid yn fyrbwyll, ond o hir ystyried ac ymgynghori â'm carai. Ond er hynny, wedi ystyried ol a blaen, mi welaf yn awr lawer anghaffael na fedrais graffu arno nes bod yn rhywyr. Erbyn cytuno â pherchennog y llong, mi welaf nad yw yr holl arian a gaf at fy nhaith, ac oll a feddaf fy hun, wedi talu i bawb yr eiddo, ond prin ddigon i ddwyn fy nghost hyd yno; ac erbyn caffwyf fy nhroed ar Dir yr Addewid, y byddaf cyn llymed of arian a phan ddaethum o groth fy mam. Gwaith tost yw i bump o bobl fyned, nid i deyrnas, ond i fyd arall, heb ffyrling at eu hymborth! A gwaethaf oll yw, nad a ein llong ni o fewn deg milldir ar hugain i Williamsburg; ac, Och Dduw! pa fodd yr ymlusgir hyd fôr na thir heb arian? Fe ŵyr Duw mor llwm ac anrhwsiadus hefyd yr ydym oll i fyned i'r cyfryw le, ond nid yw hynny ddim os ceir bara.
Dyna 'r achosion, anwyl gydwladwyr, a barodd im' ryfygu gofyn eich cymorth ar hyn i dro; gan wybod yn ddilys na flinaf un o honoch byth rhagllaw. Ond os Duw rydd einioes, mi gydunaf a chwi 'n llawen i gymorth eraill o'n gwlad. Rhowch hefyd im' gennad ar hyn o achlysur, i dalu diffuant ddiolch i chwi am eich parodrwydd i'm cymorth dro arall pryd yr oedd llai fy angen i, er nad llai eich ewyllys da chwi na 'm diolchgarwch innau, er na cheisiais ac na chefais y pryd hynny ddim o'ch haelioni, o fai rhyw aelod blin terfysgus oedd yn eich plith. Ond yn awr yr wyf yn atolwch arnoch, y rhai oeddych mor barod i'm cymorth, ped fuasai raid, fy nghymorth ychydig wrth fy llwyr angenrhaid. Nid wyf yn ameu ewyllys da yr un o honoch ar y cyfryw achos, ond pa un bynnag a wneloch ai ystyried fy nghyflwr ai peidio, myfi a weddiaf ar Dduw roddi ichwi lwyddiant yn y byd hwn a'r hwn a ddaw; yr hyn y pryd yma yw'r cwbl a eill
Eich ufudd Wasanaethwr,
Tachwedd yr ail, 1757.GRONWY DDU.