Gwaith Goronwy Owen Cyf II/Cychwyn

Penderfynu Ymadael Gwaith Goronwy Owen Cyf II

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Bywyd yn y Wlad Bell

CYCHWYN.

Ar fwrdd y Trial yn Spithead,

Rhagfyr 12, 1757

YR ANWYL GYDWLADWR,—Dyma ni, trwy ragluniaeth y Goruchaf wedi dyfod hyd yma 'n iach lawen heb na "gwyw na gwayw", na selni môr, na dim anhap arall i'n goddiwes; er caffael o honom lawer iawn o dywydd oer dryghinog tra buom yn y Downs, ac o'r Downs yma. Gwych o gefnocced y mae fy ngwraig i a'i thri Chymro bach yn dal allan heb na chlefyd y môr na chyfog, ond rhyw dipyn o bendro y dydd y daethom o'r Nore i'r Downs, lle 'r oedd y lladronesau Seisnig yma, ie, a'r lladron, ac ambell un o ddynion y llong ar chwydu eu perfeddau allan. Och yn eu calonnau! Dynion bawaidd aruthr yw dynion y môr. Duw fo'n geidwad i ni! Mae pob un o naddynt wedi cymeryd iddo gyffoden o fysg y lladronesau, ac nid ydynt yn gwneyd gwaith ond cnuchio'n rhyferrig yn mhob congl o'r llong. Dyma bump neu chwech o naddynt wedi cael y clwyf. Ac nid oes yma feddyg yn y byd; ond y fi sydd a llyfr Dr. Shaw gennyf; ac ya ol hwnnw byddaf yn clytio rhywfaint arnynt â'r hen gyffiriau sydd yn y gist yma. Fe fydd arnaf weithiau ofn ei gael fy hur wrth fod yn eu mysg. Mi fedyddiais un plentyn, a'i enw oedd. "Francis Trial," ac a'i cleddais ef wedi, a lleidra lladrones heblaw hynny. Heddyw y cleddais y lladrones. A ydych yn cofio fal y dywaid y penbwl yma o Gadpen y cai fy ngwraig i un o'r lladronesau i weini iddi tra bai ar y môr? Y mae yma yn y caban un o honynt, ond i weini i anlladrwydd y gŵr yma, nid i wasanaethu fy ngwraig i, y deuwyd a hi yma. Ni welwyd erioed fwystfil o ddyn gwaeth na'r pennaeth. Y mae yn gorfod arnom er ys pythefnos yfed dwfr drewllyd neu dagu; canys nid oes diferyn o ddiod fain yn y llong; ac edrych arno ynteu'n yfed ei winoedd a'i gwrw rhyngo ef a'i gyffoden, ac yn sipian ei weflau diawl i godi blys arnom, ac yn dywedyd, It is very good. Pa beth, meddwch chwi, a ddaw o honom cyn y pen y daith? Ond mae gennyf inau faril o borter heb erioed ei agor, a pheth rum. Yr ydwyf yn lled ofni iddo ryw dro neu gilydd fy nigio cyn belled, wrth daro rhai o'm plant neu ryw gast arall, fal y mae arno gant o gastiau drwg, a gwneuthur redeg fy nghleddyf tan ei asenau byrion; a diolch iddo roddi imi fenthyg dul o gleddyf cyn flaen llymed. Ond Duw a'm cato rhag drwg. Rhowch fy ngwasanaeth at Mr. John Owen, a dangoswch hwn iddo; ac at y Llew, Parry, Humphreys, &c. Yr ydym yn hwylio pan gyntaf y bo 'r gwynt yn deg gyda 'r rest o'r llynges, yr hon sy 'n cynnwys yn nghylch dau gant o longau.

Duw ro i chwi a ninnau iechyd a rhaith dda!
Mi ydwyf eich ufudd Wasanaethwr,

GRONWY DDU.

Nodiadau

golygu