Gwaith Gwilym Hiraethog/Adgofion Mebyd ac Ieuenctid

Cynhwysiad Gwaith Gwilym Hiraethog

gan William Rees (Gwilym Hiraethog)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Gwennol gyntaf y tymor


LLANSANNAN.

"Sibrwd rhediad afon Aled
Tros y cerrig llyfnion man."




ADGOFION MEBYD AC IEUENCTID,

AWEN! telyn fwyn fy ieuenctid,
Ti felusaist lawer awr,
Fuasent hebot ti ofid
Prudd, ac annifyrrwch mawr:
Chwarae ar dy dannau mwynion,
A'm difyrrai pan yn syn
Gyrrodd fyrdd o ddrwg ysbrydion
"Ymaith lawer gwaith cyn hyn.

Sibrwd rhediad afon Aled,
Tros y cerrig llyfnion mân,
A dy demtiai wrth ei glywed,
Lawer gwaith i eilio cân:
Tyner fysedd yr awelon,
Pan chwareuent ar y-dail,
A'th enynnent dithau'n union
I wneyd pennill bob yn ail.

Pan y byddai blinder llwythog,
Neu ryw nychdod dan y fron,
Awel iachus hen Hiraethog,
A adferai iechyd llon;
Llawer hafddydd ar ei fryniau,
Dreuliais yn dy gwmni gynt,
Lle ni safai ein gofidiau
Mwy na'r uso flaen y gwynt,


Mae'm dychymyg yn delweddu
Hen lanerchau'r funud hon,
Buost, Awen fwyn, yn tynnu
Llawer pigyn o fy mron;
Wrth adgofio hen linellau,
Mae myfyrdod yn fy nwyn
Eto'n ol i'r hyfryd fannau
Cefais bob rhyw linell fwyn.

Nid oes heddyw ond yr adgof
Am y pethau hynny gynt—
Adgof swn y ffrwd risialog,
Si y dail wrth chwarae â'r gwynt:
Adgof awel iach y mynydd,
Adgof bref y defaid mân,
Adgof hen deimladau dedwydd-
Adgof ydyw'r oll o'm cân.

Adgof sydd yn ennyn hiraeth—
Hiraeth! d'wedwch, pa beth yw?
Math o ddelw, neu ddrychiolaeth?
Nage, mae yn deimlad byw !
Drach ei gefn, a thros ei ysgwydd,
Syllu mae ar bethau fu,
Heb ofalu beth a ddigwydd,
Beth a ddaw, neu beth y sy.

Chwilia holl gilfachau'r galon,
Am ad-gof o bethau gynt,
Cwyd hwy i fyny fel ysbrydion,
O'r dyfnderau ar eu hynt;
Chwydda'r fynwes gan deimladau
Drylliog iawn, a llwythog fydd,
Eto'r ocheneidiau a'r dagrau
Roddant ryw hyfrydwch prudd.


Un fu'n chwarae'n moreu'i fywyd
Ar Hiraethog, fynydd iach,
Un fu'n byw ar lannau hyfryd
Afon loew Aled fach—
Ewch â hwnnw o'i gynhefin,
I ryw Seisnig, fyglyd dre',
Os oes dan yr awyr undyn
Edwyn hiraeth—dyna fe!

Hiraeth a'm dych'mygol huda
Dros y môr a thros y wlad,
I roi tro i Chwibren Isa',
Hen dreftadaeth teulu 'nhad:
Awn i'r hen ystafell honno
Lle tarawai'r galon hon
Guriad cyntaf bywyd yno,
Yn y fynwes dan fy mron.

Awn i rodio hyfryd fryniau
Hen gynhefin praidd fy nhad,
Lle bu Tango'r ci a minnau,
'R ddau ddedwyddaf yn y wlad:
Mi ni wyddwn, mwy na Thango,
Am ofidiau bywyd gau,
On' bai'r ddafad ungorn honno,
Buasem berffaith ddedwydd ddau.

Y mae crybwyll Tango 'n peri
Imi gofio llawer ci
Enwog arall, allwn enwi,
Yn eu hoes, adwaenwn i:—
Cwrt, y Wern, a Mot, yr Acrau,
Bute, hynafgi Sion y go'—
Hedger fawr y Priddbwll, yntau,
Heliwr cadarn ydoedd o,


Keeper, Chwibren Isaf hefyd,
Gi cyfrwysddrwg, mawr ei ddawn,
Dygodd hwnnw yn ei fywyd
Gig a bara, lawer iawn;
Hefyd Toss, cydymaith Tango,[1]
Ein defeidgi ffyddlon ni,
Credu'r wyf na bu yn rhodio
Daear ddiniweitiach ci.

Catch, o Ddeunant, filgi hynod,
Ystwyth, ysgafn iawn ei droed,
Llawer iawn o 'sgyfarnogod,
Ddaliai 'r helgi hwnnw 'rioed:
Gallwn roddi rhestr o enwau
Cwn gyfrifid gynt yn gall,
Ac 'r oedd, meddid, ragoriaethau
Yn perthynu i'r naill a'r llall.

Maddeu, fy narllenydd synllyd,
Hyn o wendid; dal mewn co'
Mai adgofion dyddiau mebyd
Yw fy nhestyn hyn o dro:
Ffol blentynaidd ydyw hiraeth;
A phan gaffo ryddid llawn,
Tywallt allan wna yn helaeth
Ryw ffolineb rhyfedd iawn.

Hoff yw ganddo son a syllu
Ar hen bethau dyddiau fu;
Enwau cwn y dyddiau hynny,
'N gysegredig ganddo sy:
Ef ar reswm byth ni wrendy,
Teimlad yw yr unig iaith

Fedr ddeall a llefaru,
Nid oes arno reol chwaith.

Dyna ryw fras ebargofiad
Am Lansannan wen ei gwawr,
Nid oes yno gi na dafad
A adwaenwn i yn awr;
Ambell un o'm hen gymdeithion
A geir yno, trwm yw 'r co',
A tho arall o drigolion
Gyfaneddant yn y fro.

Hunodd Tango gyda'i dadau,
Mewn bodolaeth mwy nid yw;
A'r hen ddafad ungorn, hithau,
Nid yw chwaith ar dir y byw.
Mae y llwybrau gynt a rodiwn
Wedi llwyr anghofio 'm troed,
Ond mae'r bryniau lle chwareuwn,
Eto'n aros fel erioed.

Fyth y defaid mân a borant
Ar Hiraethog, fel o'r blaen,
Fyth y grug a'r brwyn a dyfant
Ar y bryn ac ar y waen;
Fyth e dreigla afon Aled,.
Gan ddolennu megys gynt,
Fyth mae swn y dail i'w glywed
Uwch ei phen wrth chwarae â'r gwynt.

Minnau ddygwyd, megis Dafydd,
O fugeilio 'r defaid mân,
I fugeilio ar Sion fynydd,
Braidd yr Ion—ei eglwys lân:
Mi gyfarfum, gallaf gwyno,
Ambell ddiriad ddyn di ras,

Barai imi fynych gofio
Am y ddafad ungorn gas.

Ni feddyliwn fod bryd hynny
Gan Ragluniaeth ddoeth y nen,
Law mewn amgylchiadau felly,
A bwriadau i'w dwyn i ben—
Gosod croesau ysgeifn hynod,
Ar fy ysgwydd fechan, wan,
Er fy mharotoi i gyfarfod
Croesau trymach yn y man.

Hi a drefnai 'r groes a'r adfyd,
Un yn llai, a'r llall yn fwy;
Trefnai waredigaeth hefyd,
Gyferbyniol iddynt hwy:
Os y ddafad barai flinder,
Poen a phryder fore a hwyr,
Trefnid Tango ar ei chyfer,
Rhag fy nigalonni 'n llwyr.

Er y diwrnod y gadewais
Lannau Aled, hyfryd fro,
Llawer blinfyd chwerw brofais,
Yn y byd o dro i dro;
Gwell yw tynnu llenni trostynt,
Gwell yw peidio i go' eu dwyn,
Ond yn unig un o honynt—
Colli fy Angharad[2] fwyn.

Fy ngholomen fwyn ddiniwed,
Hoffder llygaid mam a thad,
Ergyd trwm in' oedd ei cholli,
Hir fu'n hiraeth ei barhad;

Heilltion ddagrau tros ein gruddiau,
A dreiglasant lawer tro,
Nid aeth ugain o flynyddau,
Ag Angharad fach o'n co'.

Buasai 'n deilwng ferch i Moses,
Yn llarieidd-dra 'i thymer fwyn,
Hudai 'i gwedd a'i llygad serchus
Bawb i'w charu, gan eu swyn;
Oedd ry dvner i anialwch
Oer a garw 'n daear ni,
Ac i wlad o ddiogelwch,
Angel ddaeth, a chipiodd hi.

Bellach wyf ar oriwared
Gyrfa bywyd is y nen,
Byddaf cyn bo hir yn myned
Atii orffwys dan y llen;
Tad a mam, a brawd a phlentyn,
Aent o'm blaen i'r distaw dir,
Minnau'n brysur sy'n eu dilyn—
Byddaf yno cyn bo hir!




BRONNAU LLANSANNAN

"Ond mae'r bryniau lle chwareuwn
Eto'n aros fel erioed."



Nodiadau

golygu
  1. Yr oedd teulu y bardd wedi symmud o Chwibren Isa', i'r Rhydloew, yn nyddiau y cwn a goffeir yma.
  2. Geneth fechan chwech mlwydd oed a gladdasom yn Heol Mostyn.