Gwaith Gwilym Marles/Comed 1858

Pa fanteision gawsoch chwi Gwaith Gwilym Marles

gan William Thomas (Gwilym Marles)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Y wlad sydd well


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Comed Donati
ar Wicipedia





COMED 1858.[1]

Mesur,—TRIBAN MORGANWG.

RYW hwyr, a mi yn cychwyn
I 'nghartref yn y dyffryn,
Meddyliais weled yn y nen
Y lleuad wen gyferbyn.

Ond O, y fath ryfeddod
Oedd yno er fy syndod,
Disgleirwyn gorff o deneu dân,
A chynffon lân i'w chanfod.

Mi gofiais ddaroganau
Haneswyr yr hen oesau,
A chofiais glywed gynt fy mam
Yn siarad am gomedau.

Mi gofiais Gomed lwyswedd,
A welsid ddeugain mlynedd
A saith yn ol, mewn llawer plwyf,
Drwy'r nen yn rhwyfo'n rhyfedd.

O'r fath lawenydd hyfryd
A lanwodd fy holl ysbryd,
Am unwaith weled Comed, clywch,
Yn chwyfio uwch daearfyd.

Ymestyn wnai yn ddehau
Ar draws yr uchelderau,

Ac yn ei faes—fwng plannai Arth[2]
Y gogledd barth ei balfau.

A gurai'n gynt mo galon
Y morwr ar yr eigion,
Pan îs ei seren hoff ei hun
Y gwelai lun y gynffon?

Sidellau, uthrawl wrthrych
Ar antur trwy yr entrych,
Y sêr o'i lwybr a droent draw,
A dyn mewn braw yn edrych.

Mae'r dirion leuad arian
Anhapus a dihepian,
Rhag bod y newydd argoel synn
Am ddrygau yn darogan.

Mae rhai yn ofni chwerwedd,
Ymlusgant mewn dir lesgedd;
A gwelant uwch y byd yn awr
Ysgubell fawr dialedd.

Gwêl un o bell heb ballu
Yr arwydd yn gwireddu
Ei freuddwyd hynod ar ryw bryd,
Fod nos y byd yn nesu.

"Nid yw ond ffaglen greulon
Yng ngallu du ellyllon,'
Medd rhywun, "i oddeithio'r nef
Yn danllwyth gref echryslon."

Ym mryd yr ir—lanc llawen,
Mae 'ngwawr y siriol seren

Gymysgliw'r lili a'r rhosyn coch,
A wêl ar foch ei feinwen.

Tra i'r seryddwr cywrain
Y mae yn gorff goleugain,
Hyloew dŵr o niwloedd nen,
Ar dêr lun seren drylain.

Nid yw y craidd serenol,
Fel edrych, yn sylweddol,
Ond disglaer darth a gylchir gan
Fodrwyau annifeiriol.

Y llosgwrn sydd yn llusgo,
Fe ateb inni eto,
Nad yw, mwy na'r gogleddwawl glain,
Ond nifwl cain yn nofio.

Yn aml yn ei hymylon,
Cynfyddwn ddwy ffrwd radlon
O deneu wawl, ond dont heb ddig
Ynghyd o frig y ffynnon.

Pan fyddo gyrfa'r seren
Yn nesu at yr heulwen,
Ei chynffon deg o'i hol ymdaen,
Ond try ymlaen drachefen.

Ar ol ei ado'n ddifrad,
Heb oedi yn ei rhediad,
Ei hwyneb eto fyth y sydd
Fel ped yn brudd o'i gariad.

O hŷd dy walltog gynffon!
O ddyfnder yr eithafion
Y teithi trwyddynt, seren gan,
Nes gwelwa'n wan y galon!


O aros, wibiad eres !
Bydd fad am ganiad gynnes;

Arafa ennyd rwysg dy daith
I hynaws draethu'th hanes.


O ble y deilliaist allan?
O ba ryw oror eirian?
Pa beth a'th yrrodd gyntaf o
Dra hoenus fro dy hunan?


A'i 'n amser dig wrthryfel
Rhyw echdwr croes i ochel,
Y crwydraist ar dy hynt am hedd,
Nes deuai'th sedd yn dawel?


Sawl un o honoch heno
Drwy'r nwyfre bur sy'n hwylio?
Ai plant ieuangaf nefoedd y'ch
Mewn nwyf di-nych yn nofio?


Ple bu dy gwrs hyd yma?
Pa olygfeydd hawddgara
A wne'st yn oleu? Ar ryw bryd
A welaist geinfyd Gwynfa?

O! beth am y planedau
A'r sêr, ynt megys blodau
Hyd eang faes y nef yn frith,
A thi 'n eu plith yn chwarau?


A ydynt breswylfaoedd?
A welaist o'th ucheloedd
Ar wastad lawr a chribog fryn
Wedd bodau yn y bydoedd?


I ble mae mwy dy dynfa?
A chwili am orffwysfa?
Ai ynte teithio'th dynged fydd
Nes gwawrio'r dydd diwedda?


Os wyt ti ar ymado,
Pa bryd y deui eto?

A gawn ni weled byth dy wedd
Cyn troi i'r bedd i huno?


A raid i oesau meithion
Droi ar eu mud olwynion
Cyn gwelir ol lle'r wyt yn awr
A dwyre o'th wawr dirion?


Yn iach it, seren hyfryd!
Y llaw sy' nawr yn ddiwyd,
Nad bryd y delot ar dy hynt,
A wywa'n gynt i'r gweryd.


Nodiadau

golygu
  1. Y gan sydd yn hawlio y flaenoriaeth yn y gystadleuaeth hon yw eiddo Tŵr Tewdws; mae hon yn gan diôs; ambell lygeidyn barddonol yn ei sirioli; ac ambell anadliad awenyddol yn dangos meddwl byw. I Tŵr Tewdws, gan hynny, y dyfernir y wobr."—EBEN FARDD.
  2. Ymddangosai y Seren Wib ychydig islaw y Pwyntyddion y rhai ydynt ddwy seren yn nghydser yr Arth Fwyaf, ac a enwir felly "am eu bod yn cyfeirio neu bwyntio yn wastadol at Seren y Gogledd."