Gwaith Gwilym Marles/Pa fanteision gawsoch chwi
← Ar Ddiwedd Cynhaeaf | Gwaith Gwilym Marles gan William Thomas (Gwilym Marles) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Comed 1858 → |
PA FANTEISION A GAWSOCH CHWI?
FEL yr oedd dau gyd-fyfyriwr yn y Brifysgol gerllaw yn rhodio un prydnawn teg ym mis Ebrill ar lan yr afon Clyde, arweiniwyd hwy i'r ymddiddan canlynol. Dylid coffhau mai wedi ei ffurfio yr oedd y gyfeillach rhyngddynt er y daethant yn adnabyddus â'u gilydd tua hanner y flwyddyn gyntaf o'u harosiad yn y Brifysgol. Nis gwyddent oblegyd hyn hanes foreuol y naill y llall, ac nid oeddynt erioed o'r blaen wedi disgyn ar y rhan hon o hynt eu bywyd.
GERARD. A gawsoch chwi fanteision boreuol da?
PENRY. Anarferol dda; nid yn aml y cafodd neb well.
G. Yr oedd eich rhieni yn gyfoethog, ynte?
P. Nac oeddynt. Yr oedd amgylchiadau fy rhieni, er uwchlaw angen, yn eithaf isel, gan ein bod yn deulu lluosog, ac nid oedd gan fy rhieni ddim i ddechreu eu byd ond yr hyn sy gan ffermwyr bychain yn gyffredin.
G. Yr oedd gennych ryw berthynas cefnog, ynte, i gymeryd atoch?
P. Nac oedd am a wn i. Os oedd, ni ddaeth yr un ymlaen i arddel perthynas pan fuasai reitaf i mi wrthi.
G. Yr ydych yn fy synnu. Hi ddygwyddodd i chwi, efallai, fel y gwnaeth i Samuel Taylor Coleridge pan yn llanc ys llawer dydd? P. Beth oedd hynny? Yr wyf wedi anghofio, os darllenais.
G. O dyna oedd hynny. Pan oedd Coleridge yn llanc tua deuddeg oed, os wyf yn cofio'n dda, yn ysgol Christ's Hospital, yn gydysgolhaig â Charles Lamb a Leigh Hunt, yr oedd un diwrnod yn myned trwy y Strand, heol yn Llundain ag sydd yn wastad yn llawn pobl, fel y gwyddoch, yn llawn myfyrdod a breuddwydion barddonol fel arfer. Wel, yn ddisymwyth dyma ef yn taenu ei freichiau allan ar ddull un yn myned i nofio, pan yn anffodus y daeth un o'i ddwylaw yn agos i logell gwr boneddig oedd yn pasio. Startodd hwnnw, daliodd sylw ar yr hogyn, ac ymaflodd yn ei fraich, gan ddywedyd,—"Ai ie'r gwr bach, yr ydych yn rhy ieuanc eto at ryw waith fel hyn." Gellwch ddychmygu teimladau Sami pan yn cael ei gymeryd fel hyn am un o ladron bychain heolydd Llundain. Safodd fel delw; a phan allodd siarad, dymunodd gennad i egluro i'r boneddwr pa beth oedd yn feddwl oedd yn wneyd ar y pryd. "Meddwl yr o'wn i am 'stori Leander a Hero, ac am Leander yn nofio dwr yr Hellespont (cainc o fôr rhwng Ewrop ac Asia), i weled ei gariad, Hero; ac yn wir, syr, ni wyddwn damaid i mi ledu fy mreichiau o gwbl." Cafodd y boneddwr allan mai gwir a ddywedai y llanc, a chymerodd gymaint o ddyddordeb ynddo, fel y bu yn gwylio drosto, ac yn help iddo i fyned i fyny i'r Brifysgol. A fu hi gyda chwi rywbeth yn debyg i hyna?
P. Naddo, yn wir; ni fuais mor ffodus a hyna ychwaith "Cyfaill cywir, yn yr ing ei gwelir;" a gwelais fy rhieni a rhai o'm perthynasau mor garedig i mi ag oedd yn eu gallu i fod. Ond ni ddisgynnodd un gawod o aur erioed i fy arffed i, nac yn fy mebyd, nac ar ol hynny; a mwy na thebyg yn awr yw nas gwna fyth ychwaith, tae fater am hynny.
G. Eto chwi a ddywedwch i chwi gael manteision rhagorol yn fore. Rhaid fod eich tad yn ddyn o ddysg ac archwaeth, a rhyw gymaint o ddylanwad, i'ch cychwyn a'ch cynorthwyo ymlaen?
P. Na, ychydig iawn o ddysg yn ystyr arferol y gair oedd gan 'nhad. Yr oedd yn un o wyth o blant; saith o honynt yn fechgyn, a thrwy chwys eu gwyneb y bwytasai y teulu yn hen fferm gynnes G—— eu bara. Nid llawer o ysgolion oeddynt i'w cael y pryd hwnnw ym mharthau gwledig y deyrnas, yn enwedig rhwng mynyddoedd Cymru, ac nid llewyrchus iawn oedd yr ychydig hynny. Cafodd 'nhad tua'r un faint o ysgol a phlant ffermwyr yn gyffredin: rhyw ychydig o chwarteri yn y gaeaf, pan y gellid hawddaf hebgor ei wasanaeth gartref. Daeth i ddarllen Seisneg, ysgrifenu, a chadw cyfrifon dipyn yn drwsgl. Wedi tyfu i fyny gwelodd ddiffyg ei addysg foreuol lawer gwaith, hyd yn nod at lanw ei gylch anghyhoedd ef mewn cymdeithas; a gwnaeth ei oreu, yn ol yr amser a'r cyfleusderau oedd ganddo, i ddiwallu'r diffyg. Cadwai ei gyfrifon yn ofalus, darllenai y Beibl yn rheolaidd bob cyfle oedd ganddo, derbyniai gyhoeddiad misol neu ddau, nid oedd nac yfwr nac ysmociwr, ac yr oedd arno awydd i roi mwy o ddysg i'w blant nag a dderbyniasai ei hun.
G. Dichon fod ganddo lawer, neu, dyweder fagad, o lyfrau, o duedd i ddihuno yspryd darllen ac ymofyn ynnoch, ac i ddwyn allan eich cof, eich dychymyg, neu ryw gynneddf arall mewn modd neillduol. Mae hi wedi bod felly lawer gwaith ychydig o lyfrau i gael eu darllen drosodd a throsodd gan ddyn pan yn ieuanc ydynt yn fynych wedi creu cyffro a ddarfu arwain i bethau mawrion. Dyna, fel engraifft, Iolo Morganwg a Robert Burns; dim ond ychydig o lyfrau y cawsant gyfle i'w darllen pan yn ieuainc, ond gwnaethant yn fawr o'r rhai hynny; ac fel hyn cadwyd fflam ymofyngarwch plentynaidd ar gynn nes y deuwyd o hyd i gynnud gwell.
P. Yn wir, mae yn ddrwg gennyf eich amheu bob tro, ond mae gwirionedd yn gwneyd i mi gyffesu mai lled ysgafn o lyfrau oedd shelves fy nhad. Yr oedd almanaciau llawer blwyddyn yno, llyfr Ficer (argraffiad hen iawn), Hymnau Williams Pantycelyn, Hanes Crefyddau'r Byd Cristnogol, a rhyw dwysged o gyhoeddiadau misol goreu y cyfnod hwnnw. Yr rhai hyn oll a ddarllenais drosodd a throsodd laweroedd o weithiau, ac nid y lleiaf y cyhoeddiadau, y rhai trwy eu hamrywiaeth fuddiol a'm mawr ddifyrrent. O'r diwedd daethai y ffugenwau a wisgai yr ysgrifenwyr yn enwau gwirioneddol i'm golwg i, ac yr oedd gennyf ddychymyg lled eglur, er nad oedd ragor na dychymyg, o lun, a maint, ac oedran, ac annedd pob un o honynt.
G. A oedd dim dynion clyfer a gwybodus yn yr ardal i'ch dodi ar ben y ffordd?
P. Gadewch weled. Oedd, yr oedd yno ryw ddau neu dri a dybiwn i ar y pryd yn gryn Solomoniaid. Siaradent lawer ar ryw fath O bynciau ac am ryw fath o awdwyr. Buont yn foddion i dynnu fy sylw innau at yr unrhyw, a dyna'r gwasanaeth mwyaf a wnaethant i mi, gan y cefais allan heb fod yn faith fod eu sŵn yn fwy na'r sylwedd. Am yr ardalwyr yn gyffredin, heb awgrymu yr un amharch iddynt, a chan gydnabod yn llawen a diolchgar eu bod yn perchen ar luaws o rinweddau, nid hawdd fuasai dod o hyd i ddynion mwy diymgais a didaro i holi ar ol ffrwyth pren gwybodaeth.
G. Yr ydych yn hytrach yn ychwanegu o hyd at fy syndod. Cawsoch yn debyg eich danfon i'r ysgol yn dra ieuanc?
P. Do, o'r fath ag ydoedd. Ond nid oedd ond rhywbeth, os dim, gwell na bod heb ddim. Yr hen wr duwiol, yr hwn a gadwai yr ysgol gyntaf y buais ynddi, ei chadw bob gaeaf a wnai, druan, o ran ffasiwn. Ym meddyliau bechgyn a phlant yr ardal, cysylltir myned i'r ysgol â'r meddwl am rew, ac eira, a gwlawogydd llifeiriog. Ces athrawon eraill, ac yn eu plith offeiriad, un o feibion Anac; dyn pwerus, ysgeiddig, nwydwyllt, gwresog, a charedig o galon, hoff o arddu a ffermo, ond nid wedi ei dorri allan gan ddim os nad gan "dyngedfen ddall" ar gyfer cadw ysgol. Ces athraw ar ol athraw o ryw fath, rhai yn ddrwg a rhai yn waeth, nes i mi fyned at D——. Gwelwn rai o fy nghyfoedion gwell eu byd yn cael eu cymeryd oddiwrthyf i'w danfon i ryw ysgol wir dda; a'r pryd hwnnw do'i un o hymnau yr hen Thomas Williams, Bethesda'r Fro, onide? i fy mryd:—
Adenydd fel c'lomen pe cawn,
Ehedwn a chrwydrwn ymhell,
[I'r ysgol a'r ysgol] yr awn,
I weled ardaloedd sy well.
Ond, fel y dywed y gwr doeth, "Cyfoeth sydd iddo adenydd "—adenydd mewn rhagor nag un ystyr. Nid oedd gennyf fi adenydd, na chyfoeth, na dylanwad i'm cludo i un o ysgolion gramadegol gwir effeithiol y wlad.
G. Maddeuwch i fi, fy nghyfaill, am ddweyd fy meddwl mor eglur. Ond y sicr, yn gwybod am eich safle uchel ac addawus yma yn y Brifysgol, y sylw parod a delir i'r hyn a ddywedwch yn ein cymdeithasau athronyddol, gwyddonol, a dadleuol, y parch a ddangosir tuag atoch gan y pennaf o'r athrawon, ac ymlaenaf dim, yn hyspys, trwy fy hir adnabyddiaeth o honoch bellach, er y cyfarfuom yma, o'ch cyrhaeddiadau, eich dysg, a'ch doniau, disgwyliaswn, pan ofynnais i chwi gynneu, pan ar bwys cofgolofn yr anfarwol Nelson, glywed eich bod wedi bod yn fwy ffodus na'r cyffredin yn eich addysg foreuol a'ch dygiad i fyny.
P. Yr ydych, yr wyf yn ofni, yn rhy ffafriol eich barn am danaf. Ond darfu i chwi arfer y gair "ffodus." Yn awr, yn ystyr arferol y gair, ni fuais o gwbl yn ffodus. Eto, i mi gael egluro fy hun, a dweyd teimlad fy nghalon wrthych, fel fy nghyfaill mynwesol, yr wyf yn cyfrif, mewn ystyr uwch a rhagorach o'r gair, i mi fod yn ffodus iawn. A dyma'r rheswm pam. Er nad oedd 'nhad ond dyn mewn amgylchiadau digon cyffredin, ac wedi derbyn addysg o'r fath fwyaf cyffredin, yr oedd 'nhad yn ddyn da, o egwyddor gywir; yn ddyn gonest, anrhydeddus; o rodiad diargyhoedd; o gymeradwyaeth gyffredinol yn yr ardal; o awdurdod moesol nerthol yn ei deulu a'r gymydogaeth; yn ddyn, mewn gair, ag yr oedd llawer o nerth cymeriad yn perthyn iddo. Yr oedd yn feddiannol, mewn graddau na welais yn aml, ar symlder neu blaender egwyddorol. Nis goddefai ffug, na rhagrith, nac ymddangosiad gwag ynddo ei hun, nac mewn eraill agos ato. Yr oedd yn geryddwr llym o dwyll a dichell. Dywedai yn fynych, "Byddwch yn drue, 'mhlant i." Ac hefyd, "Mae yr hyn sy werth ei wneyd o gwbl yn werth ei wneyd yn dda." Nid oedd dim yn gasach ganddo na'r hyn a adnabyddir yn y wlad dan yr enw rogri (roguery). Ni oddefai neb segur o gylch y tŷ. Arferai pob un o'i blant i fod yn ddiwyd, o'r lleiaf hyd y mwyaf; rhoddai ryw waith cymhwys iddo i bob un. Gweithiwr o egni oedd ef ei hun, a rhedai ei yspryd trwy yr holl dŷ. Nid yn unig yr oedd yn ddyn moesol, fel y dywedir, ond yn ddyn crefyddol; yn ddyn o ddefosiwn pur a dwfn, llawn o barch at bethau crefyddol. Cadwai weddi deuluaidd yn gyson, a gwnelai hyn gyda mawr hyfrydwch, a barnu wrth ei ddull. Fel y dywedais o'r blaen, yr oedd yn hollol syml ei arferion, cymedrol i'r pen, heb wybod beth oedd gloddest nac wtres o un math. Rhwng pob peth, gwn eich bod yn fy neall heb eglurhad pellach, yr oedd awyr foesol a chrefyddol fy nghartref yn iachus a chryfhaol i anadlu ynddi. Fel y dywedwn am ambell i ffermdŷ ei fod yn wynebol at yr haul, felly yr oedd y teulu hwn yn wynebol yn gyfoethog at Dduw. Fel hyn ystyriaf bob amser fy mod wedi fy ngeni yn dda; wedi bod yn ffodus yn ngwir ystyr y gair; wedi cael, wedi'r cwbl, y manteision pennaf, goreu i ddyn, fel dyn ar y ddaear ac etifedd anfarwoldeb.
Felly, os gofyn neb i mi ar unrhyw amser, pa fanteision a gefais, fy ateb yw, "Mi a gefais y manteision goreu."