Y tegaidd wrid oedd ar dy ruddiau
Sydd wedi cilio, rian fwyn;
A wyt ti'n cofio gwrando'r gwcw
Yng nghwmni rhywun ar y twyn?
A hela syfi yn y gelltydd,
A blodau o glawdd i glawdd ynghyd?
Ah! gwelaf bellach y'm hadweini,—
P'odd buost, dwed, ys talwm byd?
"Mae f anwyl dad,"—mi wn yr hanes,
Rwy'n cofio ei weld yr olaf dro;
Mae'th fachgen tlws yn ddelw ei ddwyrudd,
Tra hwnnw'n fyw nid aiff o go,
Ond trist cael allan wrth fynd heibio
I lawer annedd, fod yn awr
Y llais cariadus wedi tewi,
Y galon gynnes yn y llawr.
Mae llu o fyfyrdodau bore
Yn rhuthro'n dyrfa i fy mron,
Mae'r niwloedd pell yn cilio ymaith,
Diflannodd ugain mlynedd gron;
Drwy'r cof mi welaf diroedd mebyd,
Rhyw harddwch tego ar allt a dôl,
Ond pe cawn fyw am fil a rhagor,
Ni ddoi'r teimladau gynt yn ol.
Chwi fechgyn glân a merched siriol,
Hoff blant i rai na welir mwy;
Mawrhewch aur—dymor mebyd iraidd,
Dilynwch eu rhinweddau hwy;
Hyd lannau'r hen afonydd anwyl,
Ac ar y bryniau iach a chlir,
Boed bur a melus eich cymdeithas,
Gan garu Duw a pharchu'r gwir.