Gwaith Gwilym Marles/Emyn
← Ant o nerth i nerth | Gwaith Gwilym Marles gan William Thomas (Gwilym Marles) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Pob peth yn ei fan → |
EMYN.
AR daith byd, ai byr ai hir,
Duw, boed dy wir i'm tywys;
Fy nef ddaearol ar bob cam
Fo meddwl am dy 'wyllys.
Cartrefed yn fy nghalon barch
At bob rhyw arch o'th eiddo;
Y drwg mor barod i mi sydd,
Dysg fi bob dydd i'w ado.
Fy nhraed cyfeiria Di yn rhwydd
Hyd ffordd dyledswydd danbaid:
Gwrandawaf fyth dy dirion lais
Ag eithaf cais fy enaid.
Rho i'm ymochel rhag pob drwg,
Ai cudd ai amlwg fyddo;
A diosg bob rhyw drachwant ffol
O'th hedd yn ol a'm cadwo.
Y melus brawf o'r nefol wledd
Sy'n dy dangnefedd perffaith,
Boed im, O Dad, o'th rad dy hun,
Trwy rodio'n un a'th gyfraith.
Am lewyrch per dy gariad maith
Ar daith y byd presennol. I ti,
O Dduw pob byw a bod,
I ti boed clod tragwyddol.