Gwaith Gwilym Marles/Pob peth yn ei fan

Emyn Gwaith Gwilym Marles

gan William Thomas (Gwilym Marles)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Ffarwel Golygydd


POB PETH YN EI FAN EI HUN.

Y MAN y tyfo'r pren yw'r lle a gâr,
Ei frig a yrr i'r nen, ei wraidd i'r dda'r;
Ymlŷn wrth fron ei fam y plentyn bach,
Heb ofni unrhyw gam, â chalon iach.

Yr afon droellog daith a hoffa'n gu
Bob ceulan fechan laith lle'n llifo bu;
Y meddwl hed yn fyw, ar fynych hynt,
Hyd lwybrau tecaf ryw yr amser gynt.

Y gog o dir y de ymwel â ni,
Ond eilwaith tua thre y dychwel hi;
Yr hwn yn alltud fo o dir ei wlad,
Hiraetha roddi tro i'w artref mâd.

Duw imi'r enaid roes, o nefol nwyd,
O blith pob helbul croes, hi ato gwyd;
Yr afon am y môr sy groch ei chri,
A'i gweddi am ei Hior mae f'enaid i.


Nodiadau

golygu