Gwaith Gwilym Marles/Ffarwel Golygydd
← Pob peth yn ei fan | Gwaith Gwilym Marles gan William Thomas (Gwilym Marles) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Brawd a Aned → |
YR ATHRAW
FFARWEL GOLYGYDD.
At ein Darllenwyr.
TRO hwn y mae gennym air atoch, ddosparthwyr a derbynwyr caredig. Mae wedi bod yn ein bryd i'w ddweyd o'r blaen, ond cyhyd ag y medrem, peidiem. Eithr nid eiddo gwr ei ffordd. Pan ddaethom i'r penderfyniad o ddwyn allan gyhoeddiad bychan i'r ieuainc, aeddfedasem y cynllun ar draethoedd heulog ac yn sŵn tonnau soniarus y Cardigan Bay, ychydig wedi canol haf 1865, yn nedwydd gwmni un nad yw yn rhodio yma mwy. Fel yr elai y flwyddyn ddiweddaf rhagddi, ar ei mynwes fe gasglai cwmwl du, yr hwn a barhai o hyd i fyned yn fwy bygythiol, a'r hwn o'r diwedd a dorrodd ar ein pen yn nechreu y flwyddyn bresennol.[1] Cwmwl arall a gododd drachefn o'r un parth o'r wybren, ac ym mis Mawrth oer a chawodog torri a wnaeth hwn hefyd.[2] Croes iawn hyn oll i gynlluniau a dymuniadau ein calonnau hiraethus ni, eto cadarn yw ein crediniaeth mai tadol gariad perffaith oedd yma yn gweithredu. Teimlem unwaith fod angenrhaid arnom i roi y cwbl i fyny y pryd hwnnw; wedi hynny penderfynasom ei hymladd hi yn mlaen hyd ben tymor, ac felly y bu. Eithr y mae doethineb bellach yn ein rhybuddio mai gwell fyddai i ni ar hyn o bryd ymneillduo o ofal yr Athraw. Ond wrth wneyd hyn dymunem ddychwelyd ein diolchgarwch am y gefnogaeth wresog a gawsom, a'r ffyddlondeb, y tu hwnt i'n disgwyliadau, a brofwyd gennym ar law y cyhoedd darllengar, ar law dosparthwyr hunanymwadol, a rhyw ychydig o gynorthwywyr galluog. Mae dadgan hyn yn ddyled arnom yn gystal ag yn bleser i ni, rhag i neb dybied fod yr Athraw yn cael ei roddi heibio o ddiffyg cefnogaeth: nid felly yn wir. Nid oedd ein cylchrediad mor helaeth ag y buasai ddymunol, ond y mae yn awr ar y diwedd agos i gant yn fwy nag a broffwydai ein cyfeillion brwtaf y byddai iddo ei gyrraedd hyd yn nod wrth gychwyn. Mae yn aros eto i'w benderfynu pa beth a drefnir gan ein cyfeillion tuag at ddwyn allan ryw gyfrwng o'r fath, ond helaethach, yn debyg, a digon sicr llawer galluocach na'r Athraw, ar ol i'r olaf encilio o'r maes. Ond hyn a ddywedwn, megys nad oedd gennym ni wrth gychwyn yr Athraw y bwriad lleiafi orfaelio maes na niweidio anturiaeth neb; felly yn awr bydd yn falchder ac yn bleser gyda ni i wneyd ein rhan tuag at hwylysu dygiad allan unrhyw gyhoeddiad a gychwyno ar sail eang ein Crist'nogaeth rydd. Hyn sydd ddilys, fod galwadau ac anghenion, ac, yn wir, naws ac archwaeth yr oes hon y fath, fel na ddylai mis basio heb i ryw gyhoeddiad o'r ddelw a'r argraff yna wneyd ei ymddangosiad. Nid yw y ffaith fod cyhoeddiadau enwadau eraill yn dyfod, rai o honynt yn enwedig, yn rhyddach ryddach, yn un rheswm i ni dros dynnu ein dwylaw yn ol, eithr yn rheswm yn hytrach paham y dylem ymroi ati, rhag bod i ni, y rhai a broffeswn gymaint o ymlyniad wrth ryddid a rhydd—ymofyniad ein cael, o'n gosod yn y clorianau, yn brinach yn hyn. nag enwadau eraill, yr arferwn siarad am danynt fel gwrthrychau i dosturio wrthynt, oherwydd fod maen melin credoau yn g'lymedig am eu gyddfau.
Cyn terfynu, nis gallwn beidio a chrybwyll ein rhwymau neillduol i un o'n cynorthwywyr, y Parch. R. J. Jones, Hen Dŷ Cwrdd, Aberdar, am ei help ffyddlawn i ni ar lawer dull o'r dechreuad. Hebddo ef, buasai ein dwylaw wedi llaesu er ys tro hir. Mae eraill yn perthyn i'r un dosparth, ond buasai yn fai ynnom i beidio â'i nodi ef, er y gwyddom nad yw ef o bawb yn un a garai i'r cyhoedd wybod am ei rinweddau.
Ac yn awr, gyfeillion serchog, un ac oll, derbyniwch ein hysbysiad hwn y bydd i'r Athraw ar ben ei ail flwyddyn, sef gyda'r rhifyn nesaf, gael ei roi i fyny mor bell ag y mae a fynnom ni âg ef. Mae yn ddrwg gennym orfod dweyd hyn, ond nis gallwn oddiwrtho. Rhad Duw arnoch oll.
Y GOLYGYDD.
Llandyssul, Mehefin 15, 1867.
Nodiadau
golygu- ↑ Nodyn olaf yr Athraw, rhifyn Ionawr, 1867, sydd fel hyn: Ar y 4ydd o'r mis hwn, yn 37, oed, Mary, anwyl briod Golygydd yr Athraw, gan adael tair merch, a mab, ac yntau, i ddwys alaru eu colled anadferadwy."
- ↑ MARW GOFION.—Mawrth 12fed, yn naw mis oed, ac ym mhen tua deufis ar ol ei mam, Minnie, plentyn ieuangaf Golygydd yr Athraw. Claddwyd hi wrth gapel y Llwyn ym medd ei mam. Dydd ei hangladd (y 14eg) darllenodd a gweddiodd y Parch. Evan Morgan, Ficer Llandyssul, yn y ty; yn y Llwyn dechreuwyd gan y Parch. John Davies, a phregethwyd gan y Parch. D. Evans, B.A.. ar 1 Pedr 1. 24, 25; a gweddiwyd ar lan y bedd gan y Parch. W. Thomas,