Gwaith Gwilym Marles/Yr Eglwys mewn Adfyd
← Pwy gleddir gyntaf? | Gwaith Gwilym Marles gan William Thomas (Gwilym Marles) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Ymweliad a Llwyn Rhyd Owen → |
YR EGLWYS MEWN ADFYD.
A gyfansoddwyd ar adeg y troad allan o hen Gapel Llwyn Rhyd Owen, 1876.
DUW ein tadau, Duw ein mamau,
Bydd i ninnau'u plant yn blaid;
Trwm yw'r groes a serth y rhiwiau,
Blinion ofnau yn ddibaid;
Rho'th dangnefedd,
Rhad di—ddiwedd wrth ein rhaid.
Cawsom wenau gwanwyn tirion,
Cawsom brofi hirddydd haf;
Gwelsom lawer hydre rhadlon,
Llwythog ei anrhegion braf;
Am dy fwynder,
Mawl, O cymer, nefol Naf.
Erbyn heddyw chwytha drosom
Groes awelon gaeaf du;
Tywyll odiaeth yw yr wybren,.
Ffoi wnaeth seren gobaith gu;
Dad ein hyder!
A ddaw'n ol yr amser fu?
Clywsom am dy ryfedd gariad,
Daeth i'n profiad ran o'i ddawn;
Gwelwn ol yr hen ffyddloniaid
Ar hyd llwybrau diriaid iawn;
Duw y tadau !
Dod i ninnau gymorth llawn.