MAE glaswellt ar y llwybrau,— Y llwybrau oent mor lân,
Ac eto tyf yn araf A theneu lwyd ei rân;
Fel pe am beidio cuddio Ol traed y santaidd lu
Arferent gyrchu yma O fewn yr amser fu.
Mae'n chwith wrth fyned heibio I weld y drysau 'nghau,
A hyllion gloion egwyd 'N eu diogel sicrhau ;
'Chaiff awyr bur y bore, Nac awel iach yr hwyr,
'Roesawiad yma mwyach, — Mae fel y bedd yn llwyr.
Mae'r awrlais wedi aros Am flwyddyn gyfan bron,
A hongia'r ddwy hen elor O dan yr oriel gron;
Y corau ydynt weigion. Yr esgynlawr 'run wedd,—
A fyddai ddim gwell claddu'r Ddwy elor mewn rhyw fedd?
Rhyw hwyr wrth fyned heibio, Mi dybiwn glywed llef
O'r demel wag yn esgyn At Frenin mawr y nef,—
"Rho inni nerth i ddisgwy! Yn oriau'r tywyllwch du,
Nes torri'n dirion arnom Deg wawr dy gariad cu.
"Dy freichiau dyro danom I'n cynnal yn ddi-gryn,
Rhag inni fyth ymollwng I ofni digio dyn;
Ac, O Dad, maddeu iddynt Ddig chwerw eu trawsedd ffol,
Ac â rheffynau cariad Tyn di hwy ar dy ol.
"Blodeued achos crefydd,— Gwir grefydd, yn y fro;
Ffyddlondeb taer y tadau Na lithred fyth o'n co;
Ti roddaist yma'th wyneb, Adegau, do, heb ri;
Lle, bellach, rhaid addoli, O Dad! bydd gyda ni."