YM mrig y tal hwylbrenni gwichiai'r gwynt, Tuchanai, ocheneidiai, fel mewn poen;
Mewn gwewyr oedd y tonnau ar eu hynt, Ymsuddent i ymgodi'n wyn eu ffroen.
Y llong a ddawnsiai ar y llidiog lyn, Ar allt erchyllaf angau llithrai'n chwai;
Y nefoedd bygddu gauai arni'n dyn, Yn gwrlid angau arni gorffwys wnai.
Brycheuyn bach y llong ar awr fel hon, Abwydyn gwan y capten dewr ei fryd;
Y morwr hen, a'i farf fel brig y don, Sy'n ofal ac yn bryder drosto i gyd;
A ffurf ei anwyl briod draw yn nhref Ymrithia fel mewn bywyd ger ei fron;
A'r syn ymfudwyr, hed ei galon ef At rai adawodd ar ei aelwyd lon.
O, dyma chwthwm rolia'r llestr gu Nes ar ei hochr y telgynga'n glau;
A chwthwm arall! Arglwydd, achub ni O'r farwol safn am danom sydd yn cau;
Mae'r du waelodion fel ellyllon certh O rhwng y tonnau yn hylldremio'n gas,
A'r gwlaw a'r cenllysg mewn llifeiriol nerth,— O Iesu! gwared ni o'th ddwyfol ras.