Gwaith Ieuan Brydydd Hir/Bounty Syr Watcyn

Cyfrinach Gwaith Ieuan Brydydd Hir

gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
A very Phantastic Sight

BOUNTY SYR WATCYN.

Aberystwyth yng Ngheredigiawn, Mai 8, 1779.

SYR,[1]—Myfi a dderbyniais eich llythyr o'r Sed o Ebrill yng Nghaer Fyrddin, ond nid oedd dim modd i'w ateb nes gorffen yr hyn yr oeddwn yn arfaethu ei wneuthur gyda'r Dr. Siencyn. Yr wyf wedi dyfod i'r dreflan hon; a chwedi gwastatau pethau o'm hamgylch, y mae yn iawn im' ateb i chwithau. Y mae Dewi Fardd y Blawd o Drefriw â'r proposals ganddo tuag at brintio y Diarhebion a darn o'r Trioedd â Nodau Mr. Fychan o Hengwrt es mwy na dwy flynedd. Ni wn i pa beth a dderyw i'r burgyn hwnnw, ai byw ai marw ydyw. Ni chlywais ddim oddi wrtho es talm. Gresyn na chaech hamdden i edrych pa anrhyfeddodau sydd yn y British Museum. Myfi a welais y dysgedig Mr. W. Jones yng Nghaerfyrddin. Gwr mwyn a rhadlon ydyw, ac fe rodd i mi ddirection i ysgrifenu ato.

Myfi a glywais fod llyfrau Mr. Edward Llwyd o'r Museum gan Mr. Pennant, gan y Parchedig Mr. Richard Thomas, Curad Rhuthin. Gobeithio y cawn lawer o hen goffeion yn ei lyfrau nesaf o'i deithiau trwy Gymru. Tra chywraint oedd y gwaith diweddaf: a gresyn, mal dywedwch chwithau, na bai yn deall iaith ei wlad yn well.

Ni welaf yr awron ddim modd i argraffu dim mewn Brutaniaith, o ran fod ein boneda mor annaturiol i'w gwlad a'u hiaith. Dyna Syr Watcyn wedi tynu oddi wrthyf ei SALARY neu ei BOUNTY. Y mae chwareyddion, miwsigyddion, a chwareuwyr hud a lledrith yn fwy dywenydd ganthaw na gwŷr o ddysg. Y mae yn rhaid i mi, gan hynny, edrych am ryw ffordd arall i gael bywiolaeth. Nid oes dim a fynwyf fi ag ef na'i fath tra byddwyf byw mwy. Y mae yn rhyfedd gennyf na byddai eich Cymmrodorion chwi, sydd wŷr o ddysg a moddion bydol, dipyn well eu cynheddfau, a'u cariad at eu gwlad, na goddef Geirlyfr Dr. Davies, a Celtic Remains Lewis Morris heb eu hargraffu. Pedwar cant o bunnau a len- wai'r wlad o lyfrau godidog; a pha faint mwy no hynny y mae dynion yn eu treulio ar eu melus chwantau, heb wneuthur gronyn o les i gorff nac i enaid, nac i'w gwlad, nac i'w hiaith?

Mi a ddeisyfais arnoch ysgrifenu specimen o gyfieithiad Seisnig Mr. Richard Thomas o waith Llywarch Hen. Os yw wedi ei iawn gyfieithu, e ddylid ei argraffu. Y mae gennyf fi ddadysgrifiadau o hen gopiau awduraidd o waith yr hen Fardd, ond y mae ynddo lawer o eiriau nad wyf fi yn eu deall; ac myfi a welais gymaint o henwaith ond odid ag a welodd R. Thomas, ac yr wyf yn meddwl fy mod yn deall yr iaith cystadl ag un Cymro pa bynnag yn yr oes hon.

Nid oes gennyf ddim i ddywedyd wrthych ychwaneg y tro hwn. Pei gallech fenthycio gwaith Dafydd ab Gwilym im' dros ychydig o amser, mi a fyddwn rwymedig iwch, a phe dadysgrifenech waith Lewis Glyn Cothi. Byddwch wych.

Yr eiddoch,
EVAN EVANS.

Direct me in Bridge Street, Aberystwyth, Cardiganshire, South Wales.

Nodiadau

golygu
  1. Mr. Owen Jones.