Gwaith Ieuan Brydydd Hir/Cyfrinach

Marwnad Sion Powel Gwaith Ieuan Brydydd Hir

gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Bounty Syr Watcyn

CYFRINACH.

Newick, Medi 28, 1767.

ANWYL Gyfaillt,[1]—Llyma fi yn danfon yn yr amser penodol am fy llyfrau, ac yn deisyf arnoch eu danfon yn ol y cyfarwyddyd a roddais iwch, modd y gallwyf eu cael yn ddiogel. Ysgrifenwch linell neu ddwy ataf y dydd y cychwynont, a receipt oddi wrth y warehouse keeper. Myfi a gefais lythyr yn ddiweddar oddi wrth Mr. Lloyd o'r Goeden. E ddywawd fod ei fab wedi cael cennad gan Dr. Humphrey Owen, Penial Coleg yr Iesu yn Rhydychen, i ddadysgrifenu copi o waith Gildas Nennius, yr hwn gymhwynas a addawsai y Doctor i mi es dwy flynedd aeth heibio ; ond ni chefais neb a gymerai'r boen arno, nac y llyfaswn ymddiried iddo am y fath orchwyl, nes caffael Bill Llwyd, yr hwn sydd yn ddiau yn llencyn gobeithlon iawn. Y mae gennyf finnau yma lawer o nodau wedi eu casglu yma a thraw o lyfrau argraffedig a gwaith llaw. Ond y mae'r cwbl yn rhy fychan oni cheir benthyg y Celtic Remains a'r llyfryn Indexes yna, a chopi printiedig y Dr. Gale, ie, a'r Nodau ar Dyssilio hefyd, os oes modd i'w cael. Chwi a welwch gymaint yr oedd eich brawd yn fy nirio i gymeryd y gorchwyl hwn yn llaw oddi wrth ei lythyrau ataf a'm hen feistr o Ystrad Meurig. Yn ddiau nid anturiaf fi mo hono heb y cynorthwyon uchod. A chan eich bod chwi mor brysur yn eich Swydd Lyngesawl yna, ni waeth eu bod yma nac yna. Ni adwaen i neb a fedr wneuthur defnydd o honynt oddigerth Sion Thomas, Athraw Ysgol y Beaumaris; ond y mae gan hwnnw ei wala wyn (chwedl gwŷr Dyfed) i'w wneuthur, os gwna gyfiawnder i'w ysgolheigion. Gwell yw gan hynny, meddaf fi, eu danfon yma, cyn eu danfon i'r British Museum, neu, o ddamwain, i le gwaeth, lle na bydd modd byth i mi ddyfod o hyd iddynt. Y mae'r einioes yn frau, ni wys pa'r awr, pa'r ennyd y gelwir am danom o'r byd hwn; ac am hynny goreu yw cyweirio'r gwair tra fo'r haul ysplennydd yn tywynu. Yr ydych chwithau, y mae arnaf ofn, yn meddwl fyth am y Pwll Dwr, ac yn ofni eu colli; ond yr wyf fi yn meddwl y gellwch fod yn ddigon esmwyth yng nghylch hynny, os gellwch chwi rwydd ymadaw â hwynt. Hwy a gânt, o'r hyn lleiaf, yr un ffawd a helynt à'm llyfrau fy hun. Gobeithio ddyfod o'r ddau lyfr o Rye i'ch dwylo. Hen wr sad gonest yw'r Prosser, ac myfi fuaswn yn ymddiried iddo o herwydd ei eirda gan ei gymydogion am oll a feddwn, ac onid e myfi a fuaswn, er cymaint y lludded, yn eu cludo gennyf i ryw le diwall. Ni ymddygodd un dyn erioed mor giaidd annhrug- arog wrthym a'r llyffant du dafadenog o Granbrook. Wfft i'r anghenfil!

Yr ydych yn dywedyd yn un o'ch llythyrau y gallaf fod yn fardd ac yn ddewin hefyd. Gallaf, rywfath o honynt. Ond y mae'r fath ddewin ag wyf fi yn ei feddwl yn amgen peth, sef a ddylai wybod yr Hebraeg, y Syriaeg, a'r Chaldaeg, yr Arabiaith, ac iaith y Persiaid; mewn gair, ef a ddylai ddeall y Biblia Polyglotta eiddo Brian Walton. Heb law hyn, ´e ddylai ddarllen gwaith hen Dadau yr Eglwys, sef Origen, Basil, Ioan Aureneu, Eusebius, Clemens Alexandrinus, &c., yn y iaith Roeg, a Cyprian, Hieronymus neu Sieron, Emrys, Awstin, Tertullian, a chryn gant ychwaneg, yn Lladin. Mi a fyddaf weithiau am gychwyn yng nghylch y gorchwyl maith hwn, ond y mae'r olwg arno yn fy nigaloni, er fod amryw wedi ei amgylchu, y rhai sydd yn llewyrchu megys cynnifer o ser yn eu cenedlaethau. Y cyfryw oeddynt Ioseph Scaliger, Grotius, Selden, Usher, ac eraill. Weithiau ereill mi fyddaf am daclu ein hen waith ein hunain, pei cawn ganllawiau. Ond ni wiw disgwyl mo'r fath beth, ond bai i Syr Watcyn, neu ryw un o'i fath, fy nghynorthwyo; ond y mae gwŷr Cymru, mal y gwyddoch, wedi ymroi i fod yn Seison; am hynny y mae arnaf ofn wedi'r cwbl yr â'r din rhwng y ddwy ystôl i'r llawr. Pa fodd bynnag, ni fedraf fi ddim bod yn segur tra bwyf fi, ped fai ond darllen Don Quixot, ac ereill bethau gwasaw i ddifyrru'r amser; ond dewisach fyddai gennyf ei dreulio er lles i ereill a chysur im' fy hun pan elwyf oddi yma. Ewyllys Duw a wneler.

Byddai dda gennyf gael y Traethawd ar yr Esgyb Eingl adref, a barn Mr. Humphrey arno. O'm rhan fy hun, yr wyf yn meddwl y dylai fod yn haerllug ac yn groch i'w herbyn o herwydd byddair iawn yw'r Esgyb, a rhaid croch lefain i'w herbyn, os mynir iddynt glywed. Ni wnant ond tremygu a distadlu o chyferchir mal y gweddai i iawn esgyb, y peth nad ydynt hwy, na thebyg iddo. Er hyn i gyd, byddai dda gennyf glywed barn arafaidd y dysgedig arno, megys, od a fyth i'r wasg, y gallo beidio a gwneuthur niwaid o leiaf, oni wna ryw ddaioni. Ond am danaf fy hun, megis ag y dywedais uchod, ni newidiwn i mo'r mymryn lleiaf, ped fawn i farw fory nesaf, ac nid oes na chuchiau na chymwynasau a ddichon newid fy meddwl i yn eu cylch. Felly yn iach iddynt nes bont wŷr da!

A glywsoch chwi oddi wrth yr hen glochydd mwyn o Lanfair Talhaiarn eto? ac a oes gobaith gweled yr Almanacau? A ddanfon- asoch y Cywydd ato, sef Marwnad Sion Powel Fardd? Mi a brynais yn ddiweddar lyfr Tullius Cicero yng nghylch Dyledswyddau Dynion, sef yn Lladin "M. Tullii Ciceronis Officia," ym mha un y mae yr ymddiddanion sydd yn niwedd Gramadeg y Dr. Gruffudd Roberts. Os danfonwch eich Gramadeg chwi yma, mi a orffennaf yr hyn sydd ar goll. Yr wyf yn deall yr iaith Groeg a Lladin a'r Gymraeg o leiaf cystal a'r Doctor: gair mawr (chwedl Abad Dinas Basi wrth Dudur Aled) o eneu arall. Ond gwir yw hynny i gyd, a choeliwch fi. Ond, ysywaeth, y mae dolur yn fy mhen o'r achos es hir flynyddau, a dyma'r achos fy mod yn colli cymaint arnaf fy hun mewn diod. I Dduw mawr y bo'r diolch fod fy synwyrau gennyf yn sobr. Myfi a fyfyriais yn ddifesur yn ieuanc yn yr Ystrad draw, ac ni byddaf byth fal dyn arall o'r achos. Ni ŵyr llawer ffwl pengaled mo hynny ddim, ac ni chaf na nawdd na

CWM BERWYN.

"Mae'n bwrw yng Ngwmberwyn, a'r cysgod yn estyn."


Y ddiod 79 ched o digwydd im' dramgwyddo, mwy nog ereill. Ac am hynny rhaid diowryd y ddiod yn gwbl, megys ag y gwnaethym er pan ddaethym yma.

Yr wyf yn hoffi fy lle a'm meistr yma yn ddirfawr. Cristion da cydwybodol ydyw, hyd ag yr wyf fi yn canfod eto.

Yr eiddoch tra bo na migwrn nac asgwrn o
EVAN EVANS.


Nodiadau

golygu
  1. Mr. Rhisiart Morys.