Gwaith Ieuan Brydydd Hir/Marwnad Sion Powel

Cofio'r Esgyb Eingl Gwaith Ieuan Brydydd Hir

gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cyfrinach

MARWNAD SION POWEL.

Newick, Medi 9ed, 1767.

ANWYL Gyfaillt,[1]—Llyna i chwi Farwnad Sion Powel Fardd, wedi cael y newydd alaethus o'i farwolaeth. Mi a ysgrifenais lythyr, a chopi o honi, at y Llwyd o'r Coed Yn yng Nghaint. Ertolwg, perwch i Lewis Morris ieuanc ysgrifenu copi o honi

i'r Clochydd o Lanfair Talhaiarn; a byddwch mor fwyn ag ysgrifenu llinell ato. Y mae yn fawr gennyf yru'r hen wr truan mewn traul. Mi a fum yr wythnos ddiweddaf ugain milltir yn ymweled â'm cyfenw o Geredigiawn, ond yr oedd wedi myned ddeugain milltir yn mhellach i gyfnewid a'i feistr dros ychydig amser. Yr oeddwn yn gobeithio, wedi dyfod adref, fod y blychau a'r llyfrau wedi dyfod, ond dim mo'r fath beth. Dyna wythnos digon croes. Danfonwch air im' pa bryd yr ych yn meddwl eu cychwyn oddi yna.

Yr eiddoch mewn brys tra fo,
EVAN EVANS.



CYWYDD MARWNAD SION POWEL,

O Lansannan, yn Swydd Ddinbych, Bardd a Christion da.

PRUDD yw wyneb Barddoniaeth,
Mae'r gerdd a'r Gymraeg waeth;
Marw o Sion, mawr was hynod,
Ap Hywel glân; pwy ail glod?
E aeth i gyd waith y gân
Yn sothach neu us weithian;
A'r gwr a aeth i'r gweryd
A wnai'r gerdd yn aur i gyd:
Ef a lifai fel afon
Ei Awen frwd yn ei fron;
A dawn-gamp, priod angerdd
Y beirdd gynt a'r beraidd gerdd.
Aeth Sion i Sion fel sant
I ganu iawn ogoniant
I Dduw Ion, ac i'w ddinas,
I rym Messiah a'i ras.

Wedi treiddiaw yn llawen
Trwy ffrwd o dir Pharaoh hen,
Iawn gân Foesen a geni
A chân yr Oen, wych iawn Ri.
Mae llawen lef yn nefoedd
Dy ddwyn, rhag mor ddedwydd oedd,
Er y ddraig, a'r mawr eigion,
I weled tir y wlad hon:
Dirfawr yw eu gawr ar g'oedd,
Twrf mawr goruwch twrf moroedd;
Uwch cu cân no tharanau,
A thorf ydyw hon na thau;
A gwaeddant yn dragwyddawl,
Myrdd myrdd yn dadganu mawl,
'Clod, clod, a thafod a thant,
A gwiw gynnydd gogoniant,
I'r Oen, am ei ddirfawr rad,
A'i ragorawl wir gariad,
A'n prynodd trwy ddioddef,
Wyn Ior, er ein dwyn i nef.
Drwyddo Ef, da wir Ddofydd,
Hoff Ion, Tywysog ein ffydd,
Ni a gawsom iawn gysur,
Y gamp, wedi dirfawr gur;
A dyfod o'r trallod trwch
I lawn addas lonyddwch.
Clodfored, moled pob min
Ein henwog freiniog Frenin,
Prif Arglwydd yr arglwyddi,
Pen Teyrnedd, O ryfedd Ri!
Mae Ei ras yn teyrnasu
Ar lawr mewn daiarol lu;
Ac yn nef yn gynnifer
Ei saint a'r aneirif ser!'


Ninnau, mewn tonnau mae'n taith,
O olwg y tir eilwaith;
Yn ofni'r môr, goror gau,
Garw eigion, a'r oer greigiau;
Rhag i'r donn, pan ferwo'n wyllt fôr,
Yn ein hing, ddwyn ein hangor;
A'r gwynt, er ein dirfawr gwyn,
Ein gyrru i for-gerwyn:
Yno, wrth fordwyo'r donn,
Ymrwygo o'r môr eigion,
A'n gwthio i suddo'n syn
(Ni rydd nawdd) i'r anoddyn;
A dryllio'n drwch y cwch cau
Yn gregyn wrth for-greigiau;
A'n llyw, gan yr hagr wall hwn,
Ar donn o waelod annwn;
Eisieu rheol ser awyr,
A'r maen wrth dramwyo'r mŷr.
Tithau, yn anneddau nef,
Wedi gortrech, wyd gartref,
Mewn diogel dawelwch,
A phlas ein Penadur fflwch;
A chywydd newydd a wnai
Yn deilwng i'r a'i dylai:
Ni cheni di, 'n wych hoenwawr,
Ddim mwy onid i Dduw mawr.
Gwedi darfod trallod draw
O'r diwedd, a mordwyaw,
Ein hael Ner a'n hwylio ni
Olynol i'w oleuni,
I eilio, bawb yn wiwlan,
Ei fawl mewn tragwyddawl gân.

Nodiadau

golygu
  1. Mr. Rhisiart Morys.